TYFU GYDA'N GILYDD

Covid-19

Person in a woodland wearing a mask over their mouth and nose

PA GYMORTH MAE COED LLEOL YN EI GYNNIG I BOBL YN YSTOD COVID-19? 

Yn ystod y cyfnod hwn o gynnal pellter corfforol, rydym yn helpu pobl ledled Cymru i wella eu llesiant drwy gysylltu â natur yn y ffyrdd hyn:

  • Rydym yn cynnal cyrsiau 6 wythnos ar-lein am ddim. Dewch i ddysgu gyda ni am goetiroedd, natur a lles.
  • Rydym wedi lansio sianel YouTube newydd i rannu fideos natur yn wythnosol, wedi eu gwneud gan ein Mentoriaid ac Arweinwyr Coetir arbenigol.
  • Rydym wedi bod yn gwneud Canllawiau Gweithgaredd yn Gymraeg a Saesneg i’ch cefnogi chi wrth wneud ein gweithgareddau fideo YouTube
  • Mae ein grwpiau prosiect lleol yn cynnal ledled Cymru. Cysylltwch â Swyddog Prosiect yn eich ardal i ymuno a ni.
  • Rydym wedi bod yn cefnogi grŵp gwirfoddol yng Nghanolbarth Cymru o’r enw Calon Meddwl Corff i ledaenu’r neges am eu gweithgareddau llesiant ar-lein am ddim.

Cliciwch yma i archebu eich lle ar sesiwn, neu i gyfeirio rhywun arall.

 

BETH SYDD ANGEN I REOLWYR COETIROEDD YNG NGHYMRU WYBOD YN YSTOD COVID-19? 

Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod perygl y cewch eich herio wrth wneud eich tasgau a'ch dyletswyddau angenrheidiol yn eich coetir, efallai y bydd ein Llythyr Cysur Perchnogio yn ddefnyddiol i esbonio'r angen am y gwaith rydych yn ei wneud.

Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â Covid-19 ar gyfer Rheolwyr Coetiroedd, ewch i newyddion Covid-19.

Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein i gefnogi Aelodau Coed Lleol, gan gynnwys tasgau ar-lein ac ymweliadau coetiroedd rhithiol. Ewch i dudalen digwyddiadau Coed Lleol i gael rhagor o fanylion. Ewch i dudalen digwyddiadau i gael rhagor o fanylion.