
Wrexham | Weekly Walking Group
- 05 May 2021
Mae Coed Lleol (Small Woods Wales) yn cynnal grwpiau gweithgareddau iechyd a lles mewn coetir yng Ngwent, yn rhan o raglen Coed Actif Cymru. Dewch i weld sut all coetiroedd adfywio eich enaid, tra byddwch chi’n dysgu gofalu am yr amgylchedd.
Bwriad ein sesiynau yw rhoi’r cyfle i’r aelodau ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, rhoi amgylchedd cyfeillgar a chyfle i wneud ffrindiau, treulio amser yn yr awyr agored a gwarchod yr amgylchedd naturiol.
Gall pob sesiwn roi sylw i amryw o weithgareddau coetir, fel:
Gwelwyd bod treulio amser mewn coetir yn lleihau pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon, yn lleihau faint o hormonau straen a gynhyrchir, yn rhoi hwb i’r system imiwnedd ac yn gwella’r teimlad o les yn gyffredinol. Dyma rai dyfyniadau gan aelodau:
“Mae Coed Actif yn arbennig ac wedi fy helpu i mewn sawl ffordd yn ystod y 4-5 mlynedd ddiwethaf. Rwyf wedi gwneud cymaint o ffrindiau ac atgofion!”
(Cyfranogydd, Grŵp Galw Heibio Wythnosol)
“Byddwn yn dweud fod bod yn rhan o’r grŵp Coed Actif wedi lleihau fy mhryderon. Rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus yn bod allan ac mae wedi rhoi mwy o egni i mi. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus"
(Cyfranogwr, Grŵp Teulu 2019)
Darllenwch fwy am sut all coetiroedd fod yn llesol i iechyd a lles ar ein tudalen Coedwigaeth Gymdeithasol i Aelodau.
Yn ystod Covid-19, rydym ni wedi bod yn gweithio ar-lein i helpu pobl gysylltu â natur a choetiroedd o’u cartref ac yn eu hardal leol.
Rydym ni wrthi’n gweithio ar gael dychwelyd i’r coed yn ddiogel cyn gynted â phosibl. Ewch i'n tudalen digwyddiadau, ac ar ein tudalen Facebook am y newyddion diweddaraf.
Chris Partridge
Swyddog Prosiect Gwent
[email protected]
07759 954088
01654 700061 ext.4