
Wrexham | Weekly Walking Group
- 05 May 2021
Mae Coed Lleol (Small Woods Wales) yn cynnal grwpiau gweithgareddau iechyd a lles mewn coetir yn Ynys Môn, yn rhan o raglen Coed Actif Cymru. Dewch i weld sut all coetiroedd adfywio eich enaid, tra byddwch chi’n dysgu gofalu am yr amgylchedd.
Bwriad ein sesiynau yw rhoi’r cyfle i’r aelodau ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, rhoi amgylchedd cyfeillgar a chyfle i wneud ffrindiau, treulio amser yn yr awyr agored a gwarchod yr amgylchedd naturiol.
Gall pob sesiwn roi sylw i amryw o weithgareddau coetir, fel:
Gwyliwch y fideo i weld beth arall sydd yn digwydd yn Coed Actif Ynys Môn.
Gwelwyd bod treulio amser mewn coetir yn lleihau pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon, yn lleihau faint o hormonau straen a gynhyrchir, yn rhoi hwb i’r system imiwnedd ac yn gwella’r teimlad o les yn gyffredinol. Dyma rai dyfyniadau gan aelodau:
Darllenwch fwy am sut all coetiroedd fod yn llesol i iechyd a lles ar ein tudalen Coedwigaeth Gymdeithasol i Aelodau.
Yn ystod Covid-19, rydym ni wedi bod yn gweithio ar-lein i helpu pobl gysylltu â natur a choetiroedd o’u cartref ac yn eu hardal leol.
Rydym ni wrthi’n gweithio ar gael dychwelyd i’r coed yn ddiogel cyn gynted â phosibl. Ewch i'n tudalen digwyddiadau, ac ar ein tudalen Facebook am y newyddion diweddaraf.
Vivienne Plank
Cefnogaeth Rhaglen Coed Actif Ynys Môn
[email protected]
07932 924652
John Pritchard
Swyddog Prosiectau Coed Actif Ynys Môn
07590 383153
Karen Williams
Arweinydd Campfa Coetir
07811 323935