
Wrexham | Weekly Walking Group
- 05 May 2021
8 Ebrill 2021
Fis Rhagfyr 2020, cynhaliodd Swyddog Prosiect Coed Lleol, Anna Stickland, sesiwn flasu llesiant coetir yn nhref Ystradgynlais, de Cymru.
Ymddangosodd y sesiwn ym mhennod Refuge o New Voices from Wales ar BBC Two, a oedd yn dilyn Aboudi ac Ahmad, dau frawd a symudodd i'r dref gyda'u teuluoedd ar ôl dianc rhag rhyfel cartref Syria.
Er bod Coed Lleol yn gweithio ledled Cymru, nid ydym erioed wedi cynnal cymaint o sesiynau ym Mhowys. Er mai Powys yw'r sir fwyaf o ran arwynebedd, dyma lle mae'r boblogaeth leiaf. Mae Ystradgynlais yng ngwaelod y sir ac yn ffinio Castell-nedd Port Talbot a Chaerfyrddin ac yma ceir diwydiannau traddodiadol y cymoedd, sef cloddio glo a gwaith haearn mewn cymhariaeth â diwydiannau mwy gwledig gweddill y sir. Drwy gydol y pandemig, mae Coed Lleol wedi bod yn cyflwyno sesiynau ar-lein, sydd wedi ein galluogi i gysylltu â phobl y tu hwnt i'r llefydd yr ydym fel arfer yn cynnal prosiectau.
I wylio'r bennod, cliciwch yma i fynd i BBC iPlayer.
Dysgwch am weithgareddau llesiant coetir eich ardal chi ar ein tudalen Lle'r ydym yn gweithio.