
Wrexham | Weekly Walking Group
- 05 May 2021
1 Mai 2020
Nid yw cysylltu â natur fel arfer yn rhywbeth rydym yn ei wneud drwy sgrin gliniadur. Yn ystod y cyfnod clo fodd bynnag, rydym wedi gorfod addasu’n gyflym i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael y pethau rydym eu hangen ar gyfer ein hiechyd a llesiant. Nid yw wedi bod yn bosibl i Goed Lleol barhau i gynnal ein hystod eang o weithgareddau llesiant yn y coetiroedd, a helpu pobl ledled Cymru i gysylltu â natur. Yn hytrach, rydym wedi mynd ar-lein, yn cynnig cymorth mewn nifer o ffyrdd newydd.
Mae ein Sesiynau Natur Ar-lein yn digwydd yn fyw bob diwrnod yr wythnos ar Zoom. Mae gan bob sesiwn thema wahanol, o Chwilota i Ymwybyddiaeth Ofalgar. Maent am ddim ac wedi'u hanelu at bobl ag anghenion iechyd a llesiant yng Nghymru.
Rydym wedi lansio sianel YouTube newydd i rannu fideos natur yn wythnosol, wedi eu gwneud gan ein Mentoriaid ac Arweinwyr Coetir arbenigol. Yn ein fideo cyntaf, gallwch ddysgu sut i wneud Creision Danadl blasus. Cofiwch danysgrifio i’n sianel fel nad ydych yn methu unrhyw beth.
Ar ein tudalennau Facebook, Instagram a Twitter, rydym yn rhannu postiadau #DosNatur dyddiol – lluniau o goed a phlanhigion o amgylch Machynlleth lle mae ein Cydlynydd Cyhoeddusrwydd yn mynd i gerdded bob dydd. Mae hyn wedi cael ei werthfawrogi'n arbennig gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol nad ydynt wedi gallu mynd allan i fyd natur yn ystod y cyfnod clo. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael eich dos dyddiol o natur.
Mae ein grwpiau prosiect lleol ledled Cymru wedi trosglwyddo sesiynau natur awyr agored ar-lein, yn cwrdd yn rhithiol ar gyfer trafodaethau a gweithgareddau natur ysbrydoledig. Cysylltwch â Mentor Coetir eich ardal i ymuno a ni.
Rydym wedi bod yn cynnig Sgyrsiau Natur un i un dros y ffôn i’n cyfranogwyr presennol sy'n cael trafferth gyda theimladau o unigrwydd yn ystod y cyfnod hwn
Rydym hefyd wedi bod yn cefnogi grŵp gwirfoddol yng nghanolbarth Cymru o’r enw Calon Meddwl Corff i ledaenu’r neges am eu gweithgareddau llesiant ar-lein am ddim (gan gynnwys ioga, canu a chi gong).
Rydym i gyd yn hiraethu am fod yn y coetiroedd gyda'n gilydd, ond yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio ar y ffyrdd amgen hyn o’ch helpu i gysylltu â natur.