
Wrexham | Weekly Walking Group
- 05 May 2021
30 Rhag 2020
Cynhaliwyd ein prosiect Cysylltu Pobl a Natur ym Merthyr Tudful am dair blynedd, a daeth i ben ym mis Rhagfyr 2020. Roedd yn cefnogi pobl leol i gael mynediad at fannau gwyrdd, gyda'r nod o fod o fudd i iechyd y dirwedd, y gymuned ac unigolion.
"Rwyf wedi elwa cymaint o’r prosiect; mae wedi ehangu fy ngwybodaeth – yn enwedig ynghylch chwilota; mae hynny wir wedi dod yn ddiddordeb mawr i mi. Roedd gallu helpu eraill a rhoi rhywbeth yn ôl yn bwysig i mi hefyd – gan ei fod yn cysylltu â'm dyddiau’n addysgu ac yn rhoi boddhad i mi. Mae fy hyder wedi gwella’n sylweddol, yn enwedig mewn crefftau a sgiliau coetir. Rwyf bellach yn gallu addysgu'r rhain i eraill o fewn CPaN - Mae'n hyfryd addysgu pobl a rhannu'r llawenydd hwnnw"
(Gwirfoddolwr CPaN 2018-2021, sydd bellach wedi'i hyfforddi fel Arweinydd Gweithgaredd).
Gyda chymorth Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, gwnaethom gynnal gweithgareddau ar safleoedd sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ymgysylltu â chymunedau lleol Bedlinog, y Faenor, Bryngoleu a Gellideg.
Dros y tair blynedd, mae’r prosiect wedi hyfforddi 173 o wirfoddolwyr yn y maes rheoli cefn gwlad, wedi cynnal 40 o sesiynau casglu sbwriel a chadwraeth ac wedi croesawu dros fil o bobl i ddigwyddiadau cymunedol, ymhlith llawer o bethau eraill.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithgareddau coetir ym Merthyr Tudful? Beth am gymryd rhan gyda’n Coed Actif Cymru lleol?