
Wrexham | Weekly Walking Group
- 05 May 2021
28 Mawrth 2022
Yn dilyn rhyddhau’r ffilm ‘Woodlands for Wellbeing’, rydym yn falch iawn i gyflwyno’r ffilmiau eraill yn y gyfres a gafodd eu creu yn 2021 ar y cyd â rhaglen Datblygu Gwledig Leader. Mae Coed Lleol yn gweithio’n galed i ymestyn ein cyrhaeddiad ymhlith y sector iechyd ac i wella ein gallu i ymgysylltu â’n cynulleidfaoedd trwy ddulliau digidol, rhithwir.
Roedd y prosiect cydweithredol Naturefix ar gyfer Iechyd a Lles yn cynnwys dod â phartneriaeth o sefydliadau ynghyd i helpu darparwyr gofal iechyd sydd â diddordeb mewn presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd i archwilio'r manteision. Y nod oedd treialu datblygiad adnoddau digidol newydd fel adnodd i rannu profiad a dysgu, dros bellter daearyddol mewn cyfnod o ynysu neu gyfnod clo.
Trwy ddefnyddio dulliau neu sgiliau newydd, rydym yn gallu datblygu adnoddau digidol proffesiynol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, yn enwedig y sector iechyd. Yna gwnaethom dreialu’r adnoddau hyn mewn digwyddiadau dysgu ar-lein a rhannu sgiliau, i ennyn diddordeb arweinwyr gweithgareddau coetir a gweithwyr iechyd proffesiynol fel ei gilydd. Roedd hyn yn caniatáu i’r adnoddau gael eu rhannu rhwng gwahanol ardaloedd o Gymru a thu hwnt. Cafodd y prosiect arian trwy Gymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Gweithiodd y prosiect mewn partneriaeth i hyrwyddo ymarfer gorau ar draws Cymru gyfan, gweddill y DU a thu hwnt, gyda Cynnal y Cardi (Leader yng Ngheredigion), Cwm Taf Leader (Merthyr Tudful) ac Adfywio Castell-nedd Port Talbot (LEADER CPT) a’r partner newydd Green Care Finland (cymdeithas presgripsiynu cymdeithasol awyr agored seiliedig ar natur yn y Ffindir).