
Wrexham | Weekly Walking Group
- 05 May 2021
19 Nov 2020
Mae Coed Lleol yn falch o groesawu Ramiga Kirupaikkumaran o Brifysgol Bangor i’n tîm. Mae Ramiga wedi derbyn gwobr KESS (Ysgoloriaeth Sgiliau Gwybodaeth yr Economi) wedi'i hariannu'n llawn i gwblhau ei gradd Meistr mewn Seicoleg Bwyd gan ddefnyddio grwpiau teulu Coed Actif Coed Lleol yng Nghymru fel ei hastudiaeth achos. Bydd Ramiga yn archwilio effaith seicolegol dewisiadau bwyd a sut all bwyta yn yr awyr agored annog dewisiadau bwyd iachach ymhlith plant cyn oed ysgol. Bydd Ramiga yn cael ei goruchwylio gan Dr Mihela Erjavec, uwch ddarlithydd mewn Seicoleg gyda chyhoeddiadau diweddar gan gynnwys y Nudges Project: Promoting healthy food choices in the school dining room a'r Food Dudes Project: increasing fruit and vegetable intake in pre-school children.
Bydd Ramiga yn gweithio gyda ni i gynllunio rhaglen i annog bwyta'n iach ymhlith grwpiau teulu gan ddefnyddio amgylchedd awyr agored creadigol lle anogir teuluoedd â phlant ifanc i flasu amrywiaeth o fwydydd iach dro ar ôl tro, er mwyn datblygu hoffter ohonynt. Ar yr un pryd, gellir trafod anfanteision dibynnu'n ormodol ar fwydydd sydd wedi'u gor-brosesu, ac awgrymiadau ar gyfer osgoi hyn. Bydd yr ymchwil yn defnyddio ein prosiect Coed Actif Cymru yn arloesol, i ddarparu amgylchedd cefnogol er mwyn i'r teuluoedd ymgysylltu â bwyta'n iach mewn modd hwyliog. Prif nod y prosiect yw sefydlu 'diwylliant' lle mae bwyta'n iach yn dod yn rhan bleserus o drefn arferol y teulu. Bydd archwilio effaith bod yn yr awyr agored, ym myd natur a bod yn rhan o'r broses o gasglu a pharatoi bwyd hefyd yn cael ei harchwilio.
Mae Ramiga eisoes wedi ymgymryd ag Interniaeth ar gyfer prosiect Nudges (fel y nodwyd uchod), roedd hyn yn cynnwys cynnal ymyrraeth bwyta'n iach a chasglu data cyn yr ymyrraeth ac ar ei hôl. Yn ogystal, mae wedi ymgymryd ag Ymchwil ar gyfer canolfan ymchwil Plant Bangor, Tir Na n-Og lle bu'n profi mantais bod yn ddwyieithog i fabanod (14-36 mis) a phlant bach (3-4 oed), a chyflwynodd gyhoeddiad poster i'r 'Gyngres Ryngwladol ar Astudiaethau Babanod'. Mae gan Ramiga ddiddordeb yn yr awyr agored ac addysg awyr agored ar ôl treulio tair blynedd yn gwirfoddoli gyda Sgowtiaid Beaver. Roedd hi hefyd yn arweinydd tîm NCS lle bu'n cyflwyno gweithgareddau antur awyr agored ac adeiladu tîm i bobl ifanc yn Open Door Adventure yn Llanelwy, Cymru.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Ramiga ac yn dymuno pob llwyddiant iddi gyda’i Gradd Meistr.
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Swyddog Ymchwil a Gwerthuso Coed Lleol drwy [email protected]