GROWING TOGETHER

Iechyd Gwyrdd a Mynediad Gorllewin Cymru

Mae Iechyd Gwyrdd a Mynediad Gorllewin Cymru yn brosiect yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, sy’n archwilio cyfleoedd arloesol ar gyfer iechyd gwyrdd, yn cefnogi mentrau presennol ac yn edrych am ffyrdd o wella ardaloedd coetir a mynediad ar gyfer pobl o bob gallu.

Mae’r prosiect wedi’i oedi ar hyn o bryd wrth inni chwilio am ragor o gyllid.

Mae gwella mynediad at fannau gwyrdd a gwasanaethau iechyd sy’n seiliedig ar natur yn dod yn ddadl boblogaidd. Mae manteision iechyd a llesiant a gydnabyddir yn eang o dreulio amser yn yr awyr agored, gan gynnwys llai o straen a thueddiadau iselder. O ganlyniad, mae'r sector iechyd yn defnyddio gofal ataliol a gofal nad yw'n feddygol yn amlach, drwy bresgripsiynu cymdeithasol a choedwigaeth gymdeithasol.

Mae Coed Lleol, gyda chyllid gan y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant, wedi ymgynghori ag ymarferwyr lleol i'n galluogi i gyflwyno achos dros ariannu gwelliannau Seilwaith Gwyrdd i goetiroedd penodol yn siroedd Hywel Dda. Gallwch ddarllen ein hadroddiad, yma.