TYFU GYDA'N GILYDD

Coedwigaeth Gymdeithasol i Berchnogion a Rheolwyr Coetiroedd

A ninnau'n berchen ar goetir, neu'n ei reoli, gwyddom y buddion sydd ynghlwm â gweithio yn y goedwig i'n hiechyd meddwl a chorfforol. Nod prosiectau coedwigaeth gymdeithasol yw cyflwyno'r buddion hyn i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

 Nod y dudalen hon yw ateb:

Beth yw Coedwigaeth Gymdeithasol?


Mae Coedwigaeth Gymdeithasol yn cynnwys rhaglenni iechyd a llesiant sy'n cael eu cynnal mewn coetir, sydd fel arfer yn cynnwys tasgau rheoli coetir neu grefft coetir. Mae'r rhaglenni wedi'u dylunio i ddatblygu hunanhyder, hunan-barch a rhyngweithiad cymdeithasol. Yn y bôn, Ysgol Goedwig i oedolion ydyw!

Mae Coedwigaeth Gymdeithasol yn weithgaredd y gellir ei bresgripsiynu i unigolyn gan Feddyg Teulu, yn hytrach na chyffuriau, neu yn ychwanegol at gyffuriau – gelwir hyn yn Bresgripsiynu Cymdeithasol. Mae Presgripsiynu Cymdeithasol yn cydnabod na ellir datrys rhai problemau corfforol a meddyliol drwy bresgripsiynu cyffuriau, neu bresgripsiynu cyffuriau yn unig. Gall Meddyg Teulu, Nyrs neu unrhyw arbenigwr gofal sylfaenol gyfeirio pobl at wasanaethau yn eu hardal leol sy'n hyrwyddo llesiant, yn annog cynhwysiant cymdeithasol, yn cefnogi hunan-ofal, ac yn aml, yn cysylltu â natur. Yn Coed Lleol, rydym yn gweithio ochr yn ochr â meddygfeydd Meddyg Teulu yng Nghymru ac mae Meddygon Teulu yn cyfeirio cleifion at ein rhaglenni drwy Bresgripsiynu Cymdeithasol.

Cynhelir rhaglenni Coedwigaeth Gymdeithasol yng Nghymru (gan Coed Lleol Cymru) a Lloegr (gan Small Woods). Rydym yn gweithio gyda phob math o wahanol sefydliadau. Mae'r rhain yn cynnwys elusennau iechyd meddwl megis MIND, elusennau sy'n canolbwyntio ar deuluoedd ac yn gweithio mewn ardaloedd difreintiedig megis Dechrau'n Deg, sefydliadau gofal preswyl megis HAFOD a llawer mwy.

Buddion Coedwigaeth Gymdeithasol


Mae nifer o bobl ledled y DU yn edrych o'r newydd ar yr hyn sydd gan eu coedwigoedd lleol i'w gynnig, ac yn dangos diddordeb mewn cymryd rhan er budd eu hunain a'u cymunedau.

Mae ymgysylltu cymunedau â choetir lleol yn rhoi diddordeb i bobl yn nyfodol y coetir, sy'n golygu y bydd yn fwy tebygol o gael ei barchu gan ymwelwyr ac y byddant yn gofalu amdano. Yn ogystal, gall cymuned sy'n ymwybodol o goetir ac yn ei fwynhau fod yn bwysig o ran penderfyniadau datblygu.

Mae corff ymchwil cadarn ac eang sy'n awgrymu bod treulio amser mewn natur yn gwella llesiant corfforol a meddyliol ac yn lleihau marwoldeb. Mae ymchwil mewn cysylltiad â phrosiectau Coedwigaeth Gymdeithasol a gynhelir gan Coed Lleol wedi dangos dau fudd amlwg. Yn gyntaf, gwelliant mewn perthnasoedd cadarnhaol drwy gyswllt cymdeithasol, sydd felly'n lleihau unigedd. Yn ail, gwelliant mewn llesiant corfforol a meddyliol canfyddedig yn sgil yr amser a dreulir ym myd natur yn gwneud gweithgareddau corfforol (darllenwch ein Hastudiaethau Achos!). 

Dyma adborth gan gyfranogwyr sesiwn Coedwigaeth Gymdeithasol Coed Lleol:

"Mae fy iechyd meddwl yn llawer gwell. Rwyf dan lai o straen ac yn fwy amyneddgar. Os ydw i'n teimlo dan straen, byddaf yn mynd am dro i'r goedwig!"

(Cyfranogwr Coed Actif Cymru Gwynedd)

 "Rwyf wedi gweld gwahaniaeth go iawn yn fy mhlant yn sgil bod yn y goedwig. Mae fy mab yn llawer mwy hyderus a hapusach ei fyd yng nghwmni pobl. Mae fy merch wrth ei bodd yn chwarae yn y mwd a'r dŵr, dim ond 1 oed ydi hi"

 (Cyfranogwr Grŵp Teulu Castell-nedd Port Talbot)

"Ni allaf ddiolch ddigon i Coed Actif am helpu i wneud fy myd ychydig yn fwy. Rwyf eisoes wedi treulio cryn dipyn o amser yn y goedwig ond roeddwn yn teimlo ar goll a di-gyfeiriad braidd, mae sesiynau Coed Actif wedi fy helpu i deimlo'n gysylltiedig eto. Rwy'n gwneud mwy o ymdrech i ddefnyddio fy nheithiau cerdded i wella fy ffitrwydd ac mae'r sgiliau newydd sydd gennyf i wedi gwneud i mi deimlo'n agosach at yr awyr agored."

(Cyfranogwr Coed Actif Cymru, Rhondda Cynon Taf)

Am ragor o wybodaeth ynghylch y cysylltiad rhwng bodau dynol a byd natur, edrychwch ar ein tudalen Coedwigaeth Gymdeithasol i Gyfranogwyr.

Sut allaf ddechrau Prosiect Coedwigaeth Gymdeithasol yn fy nghoetir?


Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sesiwn Coedwigaeth Gymdeithasol yn eich grŵp, cysylltwch ag Amie Andrews [email protected]. Rydym yn fodlon darparu gwybodaeth deilwredig ar gyfer eich ardal leol.

Os ydych chi'n Aelod Coed Lleol, rydym yn datblygu pecyn canllawiau i'ch helpu chi i gynllunio ar gyfer croesawu grwpiau i'ch coetir. Bydd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch mesurau diogelwch, yswiriant, eich hawliau, etc. Anfonwch e-bost at Amie Andrews [email protected] i fynegi'ch diddordeb.