TYFU GYDA'N GILYDD

Polisi preifatrwydd

 

Cyflwyniad 

Coed Lleol yw enw masnachu Small Woods Association, a'i Rhif Elusen Gofrestredig yw 1081874. Station Road, Coalbrookdale, Telford TF8 7DR 

 Yn y Polisi Preifatrwydd hwn, mae "ni", "ninnau" ac "ein" yn golygu Coed Lleol ac mae "chi" yn golygu'r unigolyn sy'n dymuno defnyddio'r wefan.  

 Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Rydym yn cydymffurfio ag egwyddorion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 gysylltiedig. Ein nod yw cynnal safonau arfer orau yn ein gwaith prosesu data personol a/neu ddata personol categori arbennig y cyfeirir ato fel data personol sensitif. 

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth? 

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth yr ydym yn ei chael gennych, ynghyd â'r wybodaeth a gyflenwyd i ni gan gyrff llywodraethu a darparwyr cyllid, i sicrhau bod gweithgareddau a hyfforddiant yn addas ar gyfer cyfranogwyr ac aelodau. 

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw yn ymwneud â chi a'r cyllid sydd ei angen er mwyn i chi fynychu ein cyrsiau neu weithgareddau hyfforddi. Yn ogystal, mae gwybodaeth feddygol wedi'i chofnodi a'i storio at ddibenion gofynion meddygol yn ystod eich presenoldeb a bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn ei darparu i ni yn cael ei hychwanegu at y cofnod yr ydym yn ei gadw yn eich cylch chi, ac yna ei chadw'n ddiogel. 

Gofynnwn am eich rhif ffôn cartref/symudol a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn ein galluogi ni i gysylltu â chi mewn perthynas ag ymholiad yr ydych wedi'i wneud, neu i gysylltu â chi petai unrhyw newid yn codi i'ch gweithgaredd grŵp neu gwrs. Rydym hefyd yn gofyn am fanylion cyswllt mewn argyfwng i'w defnyddio mewn achos o argyfwng meddygol. 

Weithiau, mae'n bosibl y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth y mae'r gyfraith yn ei diffinio yn ddata categori arbennig (a elwir hefyd yn ddata personol sensitif). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch eich hil neu darddiad ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, data iechyd a chofnodion troseddol, ymhlith pethau eraill. Ni fyddwn yn casglu nac yn defnyddio'r mathau hyn o ddata heb eich caniatâd, oni bai bod y gyfraith yn ein caniatáu ni i wneud hynny. Os byddwn yn gwneud hynny, gwnawn hyn pan mae'n angenrheidiol drwy'r gyfraith a'r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.  

Mae'r holl wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, ei diben, ei defnydd a'i chyfnod cadw yn cael eu hegluro i chi pan ydym yn ei chasglu. 

Rydym yn cydnabod bod gennym fudd cyfreithiol o ran prosesu'r data personol yr ydym yn ei gasglu yn eich cylch chi am sawl rheswm, gan gynnwys: dibenion marchnata, er mwyn ein galluogi ni i atgyfnerthu, addasu, personoleiddio neu wella ein gwasanaethau, ymhlith rhesymau eraill. 

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, naill ai dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy ein gwefan, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i gysylltu â chi ynghylch y cynhyrchion a'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.  

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data 

Cyn i chi ddarparu data i ni, byddwn yn ymdrechu i egluro'n glir pam ein bod ei angen. Weithiau, mae'n bosibl y bydd angen data personol categori arbennig (sensitif) arnom. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gofyn am fanylion unrhyw wybodaeth feddygol neu ariannol yn ôl y gofyn gan ddarparwyr cwrs neu gyllid, neu fel aelodau. 

Optio Allan  

Cewch, ar unrhyw bryd, optio allan o dderbyn gwybodaeth gennym ni neu newid y ffordd yr ydym yn cyfathrebu gyda chi. Gallwch ddiweddaru'ch dewisiadau drwy ffonio 01952 432769 neu anfon e-bost i [email protected]  

Rhannu eich gwybodaeth 

Fel elusen, nid ydym yn gwerthu, masnachu nag yn rhentu'ch gwybodaeth, ac ni fyddwn byth yn datgelu gwybodaeth yn eich cylch chi (gan gynnwys gwybodaeth drwy ein cysylltiadau â chi) i drydydd parti, asiantaethau neu gwmnïau, ac eithrio: 

a) Pan mae gennym fudd cyfreithiol mewn cwmni, 
b) I gyflawni eich archebion penodol am gynnyrch neu wasanaeth neu wybodaeth yn achos trydydd parti yn darparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth neu'r wybodaeth berthnasol. Yn yr achosion hyn, er y bydd y wybodaeth yr ydych chi'n ei darparu yn cael ei rhannu gyda nhw, caiff ei defnyddio er mwyn gweinyddu'r gwasanaeth a ddarperir yn unig. 
Os ydym yn darparu gwybodaeth i drydydd parti (naill ai darparwr cynnyrch neu wasanaeth, neu asiant prosesu data allanol megis cwmni postio) neu gwmni y mae gan Coed Lleol fudd cyfreithiol ynddo, byddwn yn defnyddio'r rheolaeth lymaf drosto yn gyfamodol, gan ei gwneud yn ofynnol iddo, ac unrhyw un o'i asiant a/neu gyflenwr, i: 

  • gynnal diogelwch a chyfrinachedd y wybodaeth a chyfyngu mynediad i'w gyfloegion ei hun yn unig 
  • defnyddio'r data at y diben y cytunwyd arno yn unig a'i atal rhag cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall gan unrhyw barti arall 

Yn ogystal, byddwn yn cyfyngu'r wybodaeth gan ddatgelu cyn lleied â phosibl ohoni. Er enghraifft, er mwyn darparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth. 

Addasu a chadw gwybodaeth 

Rhowch wybod i ni os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau, neu os ydych yn teimlo ein bod yn cadw gwybodaeth anghywir yn eich cylch chi, er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion yn unol â hynny.  

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth bersonol yn unol ag egwyddorion y GDPR (a deddfwriaeth gysylltiedig) ac yn unol â'n Deddf Diogelu Data. Mae'n ofynnol drwy'r gyfraith a rheoliadau ein bod yn cadw mathau penodol o ddata am gyfnod gofynnol o amser, a chaniateir i ni wneud hynny. Y cyfnod gofynnol ar gyfer atebolrwydd ariannol yw 7 mlynedd, ond gall hyn fod yn hirach os yw'n ofynnol gan y statud neu'r rheoliad. 

Eich hawliau 

Mynediad at eich gwybodaeth: Mae gennych hawl statudol i gael gweld data personol a/neu bersonol sensitif hygyrch yr ydym yn ei gadw yn eich cylch chi. Er mwyn manteisio ar yr hawl hon, rhaid i chi wneud cais yn ysgrifenedig, naill ai drwy'r post neu e-bost. Cyfeiriwch at y wybodaeth yr ydych yn dymuno ei gweld a rhowch ddyddiadau, os yw hynny'n bosibl. Noder, pryd bynnag sy'n berthnasol, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am brawf o'ch hunaniaeth.  

Mae'r GDPR yn cynnwys yr hawliau canlynol i unigolion: 

  • Yr hawl i gael eich hysbysu 
  • Yr hawl i gael mynediad 
  • Yr hawl i gywiro 
  • Yr hawl i sicrhau 
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu 
  • Yr hawl i brosesu data 
  • Yr hawl i wrthwynebu 
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau awtomatig, gan gynnwys proffilio 

Ar y cyfan, mae'r hawliau sydd gan unigolion dan y GDPR yr un fath â'r rheiny dan y Ddeddf Diogelu Data, gyda rhai nodweddion wedi'u hatgyfnerthu'n sylweddol. 

Defnydd o Gwcis  

  • Beth yw cwcis? 

Cwcis yw ffeiliau data bychain y bydd gwefan yn eu gosod ar eich dyfais. Bydd peth o'r rhain yn anfon gwybodaeth yn ôl at y wefan. Nid ydynt yn effeithio ar eich dyfais, ond gallant gasglu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i atgyfnerthu'r safle. Er enghraifft, gall cwci gofio'r eitemau yr ydych wedi'u rhoi yn eich basged siopa, neu gall sicrhau eich bod yn cael y cynnig y gwnaethoch ofyn amdano. Gelwir y rhain yn gwcis 'sesiwn', ac maen nhw'n dod i ben ar ôl i chi adael y safle. 
Gall cwcis eraill ddweud wrthym a ydych yn dychwelyd. 'Cwcis parhaol' yw'r rhain, sy'n dod i ben 3 blynedd wedi'ch ymweliad diwethaf oni bai eich bod yn eu dileu o'ch dyfais. Mae rhai cwcis yn galluogi safleoedd i weithio, ac mae eraill yn ein helpu ni i ddysgu beth mae pobl yn chwilota amdanynt. 

  • Sut ydym yn defnyddio cwcis 

Ar hyn o bryd, nid yw Coed Lleol yn defnyddio cwcis. Wedi dweud hynny, pe byddem yn dewis defnyddio cwcis yn y dyfodol, byddwn yn diweddaru'r polisi hwn ac yn eich hysbysu yn unol â hynny.