
Make a rustic hazel stick chair
- The Green Wood Centre
- 06 Sep 2025 - 07 Sep 2025
13 Awst 2025
Mae Awyr Iach, gwasanaeth iechyd awyr agored newydd, yn dechrau’r mis hwn, gan gynnig gweithgareddau awyr agored wythnosol am ddim i bobl leol ym Mro Ddyfi ac ardaloedd cyfagos er mwyn hybu iechyd a llesiant pobl rhwng 11 – 100+ oed.
Bydd gweithgareddau dan arweiniad pobl broffesiynol yn cynnwys sesiynau cerdded a symud wythnosol i bawb o bob gallu, yn ogystal â rhaglenni 6 wythnos yn seiliedig ar sgiliau coetir, fforio, celf a chrefft, therapi anifeiliaid a rhagor. Cynhelir sesiynau ‘blasu’ misol i roi cyfle i bobl roi cynnig ar weithgareddau gwahanol.
Bydd hefyd y cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau gwirfoddoli galw heibio, gan ddysgu sgiliau newydd, cadw’n actif a chwrdd ag eraill i helpu gyda phrosiectau awyr agored ymarferol, o ofalu am erddi ysbyty Bro Ddyfi i goedwigoedd glaw Celtaidd lleol.
Gall pobl leol gofrestru ar gyfer unrhyw weithgaredd drwy Elin Crowley, Swyddog Ymgysylltu Awyr Iach – wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu e-bost. Neu gallwch gael atgyfeiriad i’r gwasanaeth gan eich meddyg teulu neu’ch darparwr gofal iechyd yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi. Bydd pob gweithgaredd yn hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus, neu gyda’r dewis o fws mini yn casglu pobl o Fachynlleth.
Dywedodd Dr Sara Bradbury Willis, Meddyg Teulu Iechyd Bro Ddyfi – Rydym yn gwybod bod treulio amser yn yr awyr agored yn wych er mwyn gwella ein hiechyd meddwl a chorfforol, ac mae tystiolaeth ei fod yn lleddfu gorbryder, yn lleihau pwysedd gwaed ac yn gwella symudedd. Mae Awyr Iach yn cysylltu pobl leol â thirwedd gyfoethog Bro Ddyfi wledig sef eu hardal leol, i wella eu hiechyd a’u llesiant a mynd i’r afael â heriau lleol amlwg fel iechyd meddwl a symudedd.
Mae Awyr Iach yn dwyn ynghyd gwybodaeth a sgiliau pobl leol sy’n gweithio i helpu i wella iechyd a llesiant pobl a lleoedd, o'r Ysbyty a’r Bwrdd Iechyd i Arweinwyr Gweithgareddau Iechyd yr Awyr Agored. Caiff ei arwain gan Coed Lleol mewn partneriaeth â Biosffer Dyfi a’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y 3 blynedd nesaf.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch https://www.facebook.com/CoedLleolAwyrIach neu cysylltwch
Elin - [email protected]