TYFU GYDA'N GILYDD

Meithrin Iechyd drwy Bresgripsiynu Gwyrdd yng Nghwm Afan

19 Meh 2025

Yn dilyn llwyddiant gweithredu ‘Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol’, bydd Coed Lleol yn cyflwyno prosiect ‘Meithrin Iechyd drwy Bresgripsiynu Gwyrdd’ dros gyfnod o ddwy flynedd, ar draws clwstwr meddygon teulu Afan yng Nghastell-nedd Port Talbot. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r Presgripsiynwyr Cymdeithasol, i gysylltu ag unigolion a all fod angen cymorth amgen drwy ein rhaglenni sgiliau gwyrdd, a’u cefnogi.

 

Byddwn yn cynnig ystod o raglenni seiliedig ar goetiroedd a byd natur, sydd wedi’u dylunio mewn cysylltiad â ‘5 Ffordd at Les: Cysylltu, Dysgu, Bod yn Actif, Rhoi a Chymryd Sylw, a ysbrydolwyd gan y GIG. Bydd y rhaglenni yn cynnwys gweithgareddau hwyliog, hygyrch, gan gynnwys: fforio a theithiau cerdded tywys, celf a chrefft naturiol, cysylltiad â natur, ymwybyddiaeth ofalgar, ID natur, sgiliau gwylltgrefft a choedwriaeth a choginio ar dân gwersyll.

 

Bydd pobl yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a magu perthnasoedd newydd, yn ogystal â dod i adnabod y safle natur yn yr ardal leol. Mwynhau rhannu profiadau gydag eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd tebyg iddyn nhw, naill ai drwy salwch, cyflyrau corfforol neu gyflyrau iechyd meddwl. Bydd paned a thân cynnes yn aros i’ch croesawu!

 

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael y cyfle i ehangu’r gwaith y gwnaethom ei gychwyn gyda’r Tîm Presgripsiynu Cymdeithasol ar draws Castell-nedd Port Talbot yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae yna nifer o ffyrdd o wella ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond nid yw cael yr amser, lle ac arian i wneud hyn bob amser yn bosibl. Rydym yn ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol am ddeall gwerth y profiadau yr ydym yn eu cynnig i gymunedau” Alison Moore – Rheolwr Coedwigaeth a Llesiant Cymdeithasol, Coed Lleol / SWA

 

Yng ngeiriau cyfranogwr blaenorol:

“Drwy gwrdd â phobl eraill a chymysgu â nhw fel rhan o’r rhaglen, cefais gymorth i fy helpu i ymlacio’n well a theimlo’n fwy hyderus. Roedd bod yn y coetir yn rhoi ymdeimlad o heddwch a llonyddwch i mi ac yn fy ymlacio, ac nid oeddwn wir wedi sylweddoli ar hyn o'r blaen. Roeddwn yn teimlo’n fwy hyderus, roedd y sesiynau’n fy nenu i adael y tŷ, ac roedd yn haws i mi siarad gyda phobl.”

 

Cynhelir ystod o sesiynau ar draws 8 wythnos a sesiynau untro drwy gydol 2025 – 2027. Os ydych chi’n byw yn ardal clwstwr Afan, a nodir isod, ac os ydych eisiau gwybod mwy, cysylltwch:

·        Port Talbot   

·        Taibach

·        Margam 

·        Glyncorrwg 

·        Sandfield 

·        Baglan 

·        Bryn/Cwmafon 

·        Cymer  

·        Gwynfi  

·        Aberafan 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Shelly Okoh [email protected] 

National Lottery Community Fund