
Make a rustic hazel stick chair
- The Green Wood Centre
- 06 Sep 2025 - 07 Sep 2025
12 Awst 2025
Mae’r prosiect yn cysylltu pobl â’u coetiroedd lleol a gyda’i gilydd, yn dod â chymunedau amrywiol ynghyd, gan ddefnyddio gweithgareddau creadigol fel cyfrwng mynegiant. Y nod yw cefnogi mynychwyr i sicrhau gwell llesiant personol a chymunedol, a chael sgiliau a gwybodaeth newydd. Rydym yn canolbwyntio ar ymgysylltiad cadarnhaol a defnyddio’r coetiroedd drwy weithgareddau celf a threftadaeth seiliedig ar natur, gwella iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl leol a llesiant cyffredinol.
Hyd yn hyn, rydym wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd amrywiol a grwpiau ieuenctid yn Abertawe, ac wedi cynnig ‘Ein Byd Natur Cwiar’ yn bwrpasol i LHDTC+ fel rhaglen gaeedig yn Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y sesiynau hyn rydym wedi cynnig ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys:
· Crefftau gwellt
· Cadw dyddiadur byd natur
· Paentiadau arddull ogof gyda phaent naturiol
· Cerfluniau clai a phren
· Coginio awyr agored
· Rhaffau o fieri
· Breichledau / cadwyni cyfeillgarwch
· Gwneud ffyn hud
· Creu printiau byd natur
“Rydym mor falch o allu cynnig y profiadau hyn ac ehangu ein cynnig o’r math o sgiliau celf a threftadaeth y gallwn eu darparu i’n grwpiau lleol drwy’r cyllid gan Sefydliad Scottish Power. Mae cysylltu â byd natur mor werthfawr i gefnogi llesiant personol cadarnhaol ac annog cenedlaethau’r dyfodol i gadw ac amddiffyn ein byd naturiol drwy ddod o hyd i angerdd i fod allan yn yr awyr agored.” Alison Moore Rheolwr Llesiant a Choedwigaeth Gymdeithasol
I ddysgu mwy am ein gwaith yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin cysylltwch â: