TYFU GYDA'N GILYDD

Hyfforddiant Arweinydd Teithiau Cerdded Iechyd

 

 

10am-4pm

Dysgwch sut mae tywys teithiau cerdded yn eich cymuned leol er mwyn helpu pobl ifanc i fyw bywyd heini, rhoi hwb i’w ffitrwydd, magu eu hyder, neu wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Mae’r sesiwn hyfforddiant hon yn rhad ac am ddim i arbenigwyr sy’n gweithio gyda sefydliadau ieuenctid ac yn y sector addysg sydd eisiau gwella eu hyder a theimlo’n ddiogel i dywys teithiau cerdded o hyd at awr fel rhan o’u swydd yn gweithio gyda phobl ifanc.

Cynhelir y sesiwn hon yng nghanolfan addysg newydd Penllergare ac mae’n cynnwys taith gerdded o gwmpas Coed Cwm Penllergare er mwyn i chi gael ymarfer.

Cysylltwch â Gemma Barnes i archebu: [email protected]