TYFU GYDA'N GILYDD

Treulio amser gydag asynnod Dyfi Donkeys

Mwynhewch amser yn yr awyr agored gyda sesiynau dan arweiniad proffesiynol ar gyfer eich iechyd a’ch llesiant

Dewch i leddfu’r enaid a chanfod cyfeillgarwch gydag asynnod therapiwtig ac addfwyn Dyfi Donkeys.

Sesiynau ymgollol yng nghwmni’r asynnod yn eu byd tawel mewn coetir pinwydd a lledhynafol, a gynhelir gan hwyluswyr Llesiant mewn Natur a Dysgu trwy Gymorth Ceffylau. 

Darperir diodydd poeth a byrbrydau.

Cludiant ar gael o Fachynlleth ac yn ôl. Maes parcio hefyd ar gael.

Mae’r sesiynau am ddim ond mae archebu yn hanfodol. Cysylltwch ag Elin: 07481 080571 / [email protected]