TYFU GYDA'N GILYDD

Melanie, Grŵp Coetir Misol Abertawe

Ymddeolais bedair blynedd yn ôl yr wythnos hon. Roeddwn wedi bod yn athrawes hanes ers dros 35 mlynedd. Roedd addysgu'n swydd eithaf hollgynhwysol i mi, gwelais fod pethau fel hobïau a diddordebau wedi cael eu gwthio o'r neilltu. I mi, roedd yn fater o ail-werthuso'r hyn a oedd nesaf. Rwyf yn credu'n gryf mai dechrau yw ymddeoliad ac nid diwedd. Roeddwn i eisiau mentro y tu allan i’m ffiniau arferol a dysgu rhywbeth newydd. Felly, pan welais i’r hysbyseb ar gyfer Sesiwn Coed Actif gyda Choedwriaeth a phethau felly ar Facebook, roeddwn i'n meddwl bod hynny'n swnio'n cŵl! Roeddwn i am roi cynnig arni! Roeddwn yn eithaf pryderus yn y sesiwn gyntaf pan gyrhaeddais oherwydd mai dynion oedd pawb arall i gyd ac roeddwn yn meddwl tybed pwy ar y ddaear y byddwn yn siarad â nhw. I fod yn onest, roeddwn yn disgwyl rhoi cynnig arni unwaith, ac nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn dod yn ôl wedyn - fel y dywedais, roedd hyn y tu hwnt i’m ffiniau arferol. Mewn gwirionedd, cefais fore hollol wych ac roeddwn yn gyffrous am y sesiwn nesaf! Ac rwyf wedi bod yn mynd byth ers hynny. Rwyf wedi dysgu llawer amdanaf fi fy hun drwy’r broses o ddechrau a herio'r hyn yr oeddwn yn teimlo'n gyfforddus yn ei wneud. Des yn dipyn o ffrindiau gyda rhai o’r dynion oedd yno, ac roeddwn yn cyd-dynnu’n dda â nhw. Credaf fod amrywiaeth y grŵp yn gryfder. Rwy'n agored i gwrdd â phob math o bobl - ond yn fy mywyd, rwyf wedi tueddu i gwrdd â’r un math o bobl. Felly rwyf wedi dysgu llawer. Pan fyddwch chi i gyd yn eistedd i lawr ac yn sgwrsio wrth wneud rhywbeth yn y Coed - mae'n beth gwahanol - mae fel ein bod ni i gyd yn gyfartal yno.

Rwy’n ddigon ffodus o fod yn briod â dyn sy'n wych gyda DIY, ond nid oeddwn i erioed wedi gwneud unrhyw beth felly. Nid oeddwn i erioed wedi defnyddio dril neu unrhyw fath o offer. Rwyf yng nghanol fy 60au nawr ac es i ysgol ramadeg i ferched lle roeddem yn gwneud ychydig flynyddoedd o waith gwnïo a choginio a dyna ni. Roedd y grŵp Coed Actif yn fy annog gymaint gan fy mod yn meddwl fy mod i'n wirioneddol ofnadwy i ddechrau - ond roedden nhw i gyd mor wych. Roedden ni’n chwerthin, yn cael paned o de a jôc fach. Pan ddechreuais i, nid oeddwn i’n medru cadw’n dawel am y peth - roeddwn i wedi dysgu sut i wneud tân heb fatsien ac roeddwn i'n siarad amdano am wythnosau! Roedd fy merched yn dal i ddweud "dal ati Bear Grylls" - roedd yn brofiad mor dda ac rwyf wedi ei fwynhau’n llwyr. Roedd yn dod yn hawdd i mi.

Rwy’n meddwl bod merched yn gyffredinol yn llai hyderus wrth feddwl am yr awyr agored a gwneud tasgau ymarferol. Ond yr hyn rwyf i wedi ei ddysgu yw bod hyder yn magu hyder. Ar ôl ichi roi cynnig ar un peth, rydych yn dechrau sylweddoli y gallwch chi wneud llawer mwy. Yn ddiddorol, mae wedi rhoi’r hyder i mi wneud pethau eraill, felly cyn i’r cyfnod clo ddechrau, roeddwn i ar ganol gwneud cwrs saernïaeth. Fyddwn i byth wedi meddwl am wneud hynny oherwydd byddwn i wedi meddwl, "Alla i ddim gwneud hynny" neu byddwn wedi bod yn poeni mai dynion fyddai pawb arall i gyd. Hefyd, y sesiwn Coed Actif a'm hysbrydolodd yn benodol oedd gwneud ffyn. Roeddwn i wrth fy modd, a thaniodd sbarc ynof i. Fel anrheg Nadolig, gofynnais am gyllell, ac rydym wedi gwneud ychydig o le yng ngweithdy fy ngŵr, ac rwyf wedi bod yn gwneud ffyn byth ers hynny. Mae gen i bellach gyfrif Instagram fy hun ar gyfer fy ffyn, ac rwyf wedi gwerthu ambell un. Cefais wadd i fynd â fy ffyn a siarad am y broses o ddefnyddio pren brodorol i'w gwneud mewn gŵyl lesiant sydd, yn anffodus, wedi'i chanslo oherwydd COVID-19. Felly, mae wedi bod yn newid mawr iawn yn fy mywyd. Rwy'n treulio ychydig oriau bob wythnos yn fy sied - lle mae'r hud yn digwydd, fel rwy’n ei ddweud - mae gweithio gyda phren yn llonyddol ac yn ystyriol iawn, ac rwy'n cael cymaint o lawenydd allan ohono.

Rwyf hefyd wedi canfod fy mod yn treulio cymaint mwy o amser yn y goedwig y dyddiau hyn – rwy'n ceisio bod allan yn y byd natur trwy’r amser nawr. Cyn ymuno â Coed Actif, roedd mynd ar daith gerdded yn hir yn rhywbeth anghyffredin, neu’n rhywbeth roeddem yn ei wneud ar

ein gwyliau. Rwyf yn teimlo llonyddwch ymhlith y coed yn arbennig a’i fod yn amgylchedd ymlaciol iawn. Mae fy merched hefyd yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored nag erioed o'r blaen.

Yn ystod y cyfnod clo, rwyf wedi ceisio cadw mor brysur â phosibl - gan fod hyn yn cadw fy meddwl yn brysur. Mae wedi bod yn wych bod Coed Actif wedi gallu parhau i ddarparu sesiynau ar-lein ar gyfer ein grŵp. Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn addysgiadol iawn. Rwyf wedi dysgu am dracio anifeiliaid, y gwahanol fathau o goed ac am ddarllen y dirwedd. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol ac wedi rhoi pethau i mi fedri sylwi arnynt pan fyddaf i’n mynd i gerdded gyda fy ngŵr.

Mae bod yn rhan o Goed Actif wedi arwain at nifer o brofiadau, hobïau a diddordebau newydd i mi, ond rwy’n meddwl yr hyn rwy’n ei werthfawrogi fwyaf yw cyfarfod â grŵp amrywiol o bobl a rhannu tasg gyffredin. P'un a yw hynny'n dysgu sut i ddechrau tân, fforio, gwneud spatula neu wneud ceirw pren. Mae'n debyg y gallech gael llyfr neu wylio fideo YouTube a rhoi cynnig ar yr holl bethau hynny ar eich pen eich hun, ond ni fyddai'n hanner cymaint o hwyl! Yr hyn rwyf yn ei werthgawrogi fwyaf yw bod mewn grŵp a chael profiadau a rennir.

Cyrsiau
Tool sharpening image

Tool sharpening

  • The Green Wood Centre
  • 21 Sep 2024
An immersive day learning how to sharpen green wood working tools. more...

Digwyddiadau
annie spratt Ig9Px cTm3s unsplash

New Event

  • 17 Sep 2024
Darllen rhagor...