Emergency First Aid at Work for Forestry Operations
- South of England Showground, Ardingly
- 11 Sep 2024
Mae ein prif swyddfa wedi ei lleoli ym Machynlleth, Powys, ond mae gennym staff yn gweithio ar hyd a lled Cymru.
Nodwch: Ar hyn o bryd mae holl staff Coed Lleol yn gweithio o bell oherwydd pandemig Coronafeirws, gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost.
Gweithio fel anthropolegydd mae Amie wedi ei wneud yn y gorffennol gyda phrofiad mewn addysgu a rheoli prosiectau. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio fel rheolwraig Coed Lleol, ble mae hi’n cydlynu rhaglen goedwigaeth gymdeithasol Coed Actif Cymru. Mae’r prosiect yma yn canolbwyntio ar weithgareddau iechyd a lles mewn coedwigoedd dros Gymru. Amie sydd yn rheoli darpariaeth effeithiol, gan gydbwyso gofynion rhanddeiliaid o’r sectorau iechyd, amgylchedd a hyfforddiant. Mae hi hefyd yn cynyddu proffil Coed Lleol gan wthio’r cyfeiriad strategol yn ei flaen, gan ddatblygu syniadau cyllido er mwyn adeiladu cwmpas ac ehangder y rhaglenni Coedwigaeth Cymdeithasol..
Dechreuodd Katy weithio i Coed Lleol yn 2007 gan helpu i sefydlu rhaglen goedwigaeth gymdeithasol Coed Actif Cymru yn 2010. Mae hi’n rhannu ei rôl fel rheolwraig rhaglenni coedwigaeth cymdeithasol gyda Amie Andrews, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu prosiectau a chodi arian. Yn fwy diweddar mae hi wedi cymryd rhai cyfrifoldebau o ran cydlynu prosiectau codi arian cymdeithas Small Woods dros y DU. Diddordebau Katy yw beicio, cerdded a garddio gyda'i theulu ifanc yn yr awyr agored. Mae cefndir Katy ym myd ieithoedd modern. Dechreuodd ei diddordeb mewn coedwigoedd a llefydd gwyllt wedi iddi dreulio blwyddyn yn byw a gweithio ger Llyn Baikal yn Nwyrain Rwsia 20 mlynedd yn ôl tra ei bod yn dysgu Rwsieg. Mae hi wedi bod yn gweithio i elusennau amgylcheddol byth ers hynny.
Mae gan Ceri 20 mlynedd o brofiad fel rheolwr prosiectau amgylcheddol yn y trydydd sector a sectorau preifat a chyhoeddus a’i chefndir yn benodol yn y maes rheoli cadwraeth, cynaliadwyedd ymarferol a datblygu cymunedol. Mae Ceri yn unigolyn â chalon fawr sydd yn gwerthfawrogi gweithio gydag angerdd ac uniondeb yn fawr. Wrth weithio gyda Coed Lleol, mae Ceri yn cymryd llawer o ysbrydoliaeth oddi wrth ddatblygu partneriaethau sydd o fudd i’r ddwy ochr. Mae hi’n byw ac yn gweithio gan ddilyn ymadrodd Aristotle ‘Mae’r cyfanwaith yn fwy na chyfanswm ei rannau’. Unigolyn sydd yn angerddol dros unrhyw beth yn ymwneud a’r awyr agored, permaddiwylliant, garddio a threulio amser gyda’i theulu ydi Ceri. Fel coeden arloesol sy’n poblogi cynefinoedd newydd yn hawdd, ei hoff goeden yw’r goeden Fedw sydd yn cynrychioli adnewyddiad a phuro mewn mytholeg Geltaidd.
Cefndir mewn addysg amgylcheddol sydd gan Kate, wrth iddi ddod o gefndir addysgu Daearyddiaeth. Bu iddi redeg prosiectau llwyddiannus yn y Great North Forest cyn dod i weithio i Coed Lleol. Mae ganddi allu cryf i weithio a chysylltu gyda phobl o gefndiroedd amrywiol. Mae hi’n caru bod tu allan, yn dringo mynyddoedd gyda’i theulu ac yn teithio. Ei hoff goed yw coed afalau am eu bod yn hardd ac am eich bod chi’n gallu bwyta’r afalau.
Arlunydd a hyrwyddwr cymunedol ydi Laura. Mae hi’n caru cael mynd i gerdded yn y goedwig ac i’r mynyddoedd a chofnodi bywyd gwyllt ei hardal leol, y blodau gwyllt yn benodol. Ym maes rheoli prosiectau’r sector cyhoeddus mae cefndir Laura, yn darparu prosiectau sydd o gymorth i gymunedau wrth oresgyn y rhwystrau i iechyd a ffyniant. Ei breuddwyd ar gyfer Coed Lleol ydi cefnogi cymunedau ar hyd a lled Cymru i ymgysylltu a’u tirwedd hardd, hanesyddol ac ystyried eu hunain fel ceidwaid. Ei hoff goeden yw’r Ddraenen Wen gan ei bod yn llawn llên gwerin, mae ganddi nodweddion anhygoel o lesol a’r goeden yma yw coeden mis ei phen-blwydd yn y calendr Ogham.
Mae gan Cathy 20 mlynedd o brofiad o weithio i amrywiaeth o sefydliadau amgylcheddol a’r awyr agored. Mae'r rhain yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ble roedd hi’n dylunio a darparu hyfforddiant yn seiliedig ar natur i unigolion proffesiynol, cyrsiau ysgolion coedwig a sesiynau coetir addysgiadol. Mae hi’n caru ioga, cerdded, bod tu allan yn yr awyr agored a chyfarfod a siarad gyda phobl newydd. Ei hoff goeden yw’r Ddraenen Wen oherwydd ei blodau hardd yn y gwanwyn a’r goeden Dderw oherwydd ei heddwch a’i nerth.
Mae Natasha yn caru celf, coginio, aromatherapi a theithio. Wedi iddi gwblhau ei doethuriaeth, roedd hi’n arbenigo mewn dylunio a darparu strategaethau gwerthuso i elusennau, sefydliadau allgymorth addysgol ac amgueddfeydd. Mae ganddi brofiad hefyd mewn ysgrifennu adroddiadau a chynigion cyllido. Mae hi wedi gweithio fel Gwerthuswr Arweiniol ar sawl prosiect mawr sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor Prydeinig, yr Academi Beirianneg Frenhinol a’r Sefydliad Ffiseg Genedlaethol. Ei hoff goeden yw’r goeden Tiwlip, am ei bod hi’n hardd iawn ac yn ei hatgoffa o’i modryb sy’n caru’r ardd.
Newid trawsnewidiol unigolion a chymdeithas i’n byd cyfunol sydd yn gyrru Chris ymlaen. Mae hi wedi gweithio gyda phobl o’r sectorau addysg, elusennol, digwyddiadau ac amgylcheddol am 15 mlynedd gan roi prosiectau llwyddiannus ar waith a gweld newid gwych i unigolion a’r gymdeithas. Mae gan Chris ystod o wybodaeth a’r wybodaeth a’r profiad yma yn ymestyn o gyfathrebu a marchnata i ddeall gwyddoniaeth Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad ar lefel gradd feistr, mae hi wedi hyfforddi fel cwnselydd ac wedi dechrau torri coed gyda cheffylau. Mae hi’n mwynhau ioga, myfyrio, baths, byw oddi ar y grid, tyfu bwyd a gwytnwch cymdeithas. Mae ganddi feddwl mawr o bob coeden ond mae yna gysylltiad gyda’r Fedwen fel arloeswr a’r goeden Dderw am ei doethineb a’i arafwch.
Mae Claire yn caru bod tu allan, yn mynd am dro ac yn dod o hyd i lefydd newydd - coetiroedd yn benodol! Yn ogystal â chefnogi ei thîm yn ei rôl fel gweinyddwr i Coed Lleol, mae hi hefyd yn rhedeg busnes celf ei hun ble mae hi’n cyfuno ei sgiliau darlunio gyda'i chariad tuag at y byd naturiol. Ei hoff goed yw’r Ddraenen Wen a’r Ysgawen oherwydd y straeon hynod ddiddorol am lên gwerin sy’n eu hamgylchynu.
Mae Mim yn mwynhau cerdded llwybrau, nofio gwyllt ac yn awyddus i ddysgu’r Gymraeg. Mae hi’n astudio rhan-amser ar gyfer gradd mewn Dylunio Graffeg ac yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd i ddefnyddio ei sgiliau wrth greu adnoddau cyhoeddusrwydd neu adnoddau cyffredinol i Coed Lleol. Yn y sector cynaliadwyedd mae ei swyddi blaenorol wedi bod, rhain gyda’r Ganolfan Dechnoleg Amgen a’r Ganolfan Egni Cynaliadwy. Mae hi’n caru coed Ffawydd.
Mae Vivienne yn caru cerddoriaeth a bod tu allan. Yn ogystal â gweithio i Coed Lleol mae hi’n rheolwraig gynorthwyol mewn siop anrhegion sydd wedi ei leoli mewn atyniad twristiaeth boblogaidd yn Ynys Môn, yn rhedeg cyfrifon cymdeithasol sy’n hyrwyddo cerddoriaeth byw ac yn rheoli llwyfan mewn gwyliau. Mae Vivienne yn gobeithio, un diwrnod y bydd yna Ganolfan Sgiliau Coed Gwyrdd a Choetir ym Môn. Coeden Dderw yw ei hoff goeden, ac mae ganddi berthynas gyda choeden Dderw leol.
Ffanatig bywyd gwyllt ydi Katie gyda diddordeb a sgiliau mewn garddwriaeth, lles meddyliol, achub bywyd gwyllt, ac mae’n hoff o fwyta cacennau. Yn y maes gwyddorau amgylcheddol mae ei chefndir hi yn ogystal â gweithio gydag unigolion ag anableddau. Ei hoff goed yw’r Ffawydd am fod eu lliwiau yn yr Hydref mor hardd.
Yn enedigol o’r Almaen/Awstria mae Sabine Soosten wedi ymgartrefu yng Nghymru erbyn hyn. Mae hi’n caru byd natur, yn enwedig coetiroedd a’i chariad mwyaf yw ymwybyddiaeth ofalgar a chysylltiad natur. Mae hi’n Arweinydd Ysgol Goedwig gymwysedig, yn ymarferydd coedwigaeth gymdeithasol ac yn ymarferydd ymwybyddiaeth ofalgar mewn natur. Fel Swyddog Prosiect mae hi’n gyfrifol am Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae hi’n aelod o dîm canolfan sgiliau coetiroedd gan ddarparu rhaglenni rhagnodi cymdeithasol sy’n cefnogi ystod eang o bobl. Mae hi hefyd yn rhedeg rhaglen gynhwysfawr Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Natur.
Mae gan Rod ddiddordeb mewn pobl, yr amgylchedd naturiol a’r rhyngwyneb rhwng y ddau. Treu-liodd 35 o flynyddoedd yn addysgu mewn ysgolion uwchradd ac mae ganddo 20 mlynedd o brofiad o sefydlu a rheoli’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd. Rhai o sgiliau Rod yw coedlannu, crefftau coed gwyrdd, rheoli coetiroedd a rheoli amgylcheddol.
Mae Melissa yn unigolyn brwdfrydig ac angerddol sydd yn caru natur a threulio amser tu allan, yn enwedig mewn coetiroedd. Yn ogystal â gweithio i Coed Lleol mae hi’n arweinydd Ysgol Goedwig llawrydd, ymarferydd coedwigaeth gymdeithasol ac yn gweithio i grŵp coetiroedd cymunedol fel Swyddog Addysg. Ei hoff goeden yn y Gwanwyn yw’r Ddraenen Ddu, Bedwen yn yr Haf, Masarnen yn yr Hydref a’r Ffawydden yn y Gaeaf.
Mae Laura yn caru chwaraeon, boed hynny’n ioga neu’n driathlon, mae hi hefyd yn mwynhau bwy-ta bwyd da. Mae hi’n Therapydd Maethol gyda diddordeb penodol mewn maeth ar gyfer ha-pusrwydd. Yn ei swyddi blaenorol mae hi wedi gweithio i raglen Go For It fel rheolwr, ble roedd hi’n cefnogi teuluoedd ifanc i fod yn fwy actif.
Mae Anna’n mwynhau annog pobl i fod yn actif ac yn greadigol yn yr awyr agored. Mae ganddi bro-fiad blaenorol o weithio fel hyfforddwr awyr agored, arweinydd alldeithiau tramor ac arweinydd teithiau beicio. Mae hi’n dalentog am wehyddu helyg, creu basgedi, crefftau coed gwyrdd a choedlannu. Ei hoff goeden yw’r goeden Ffawydden fawreddog.
Mae Nico yn berson sydd yn hoffi cymdeithasu gydag eraill, sydd yn caru mynd a’i chi am dro, ac yn hoff o nofio yn y môr yn ystod misoedd yr haf. Mae ganddi wybodaeth arbenigol mewn ffyngau coetir meddyginiaethol a diddordeb mewn ecoleg coetiroedd a chwilota am fwyd. Cyn dod i wei-thio i Coed Lleol mae hi wedi gweithio i amryw o sefydliadau megis Canolfan Defnydd Tir Amgen Prifysgol Bangor, The Wallich a MIND Abertawe. Coeden Ysgawen yw ei hoff goeden am ei bod yn rhoi blodau ysgawen a mwyar ysgawen i ni.
‘Geordie’ ydi Chris yn frodorol ond mae ei wreiddiau yn ddwfn yng Nghwmbrân ers 12 mlynedd bellach. Mae ganddo gefndir mewn ymchwil clefyd siwgr a rheolaeth cefn gwlad ac mae o hefyd wedi gweithio i BTCV Cymru a Cadwch Gymru’n Daclus. Mae’n angerddol am ysbrydoli pobl i gym-ryd diddordeb mewn edrych ar ôl eu hardaloedd gwyrdd lleol er budd y bobl a’r bywyd gwyllt. Sefydlodd Chris grŵp cymuned (Ffrindiau GNLl Henllys) ac mae’n dal i redeg y grŵp. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r grŵp wedi trawsnewid sut mae’r ardal yn cael ei gweld a’i defnyddio gan bobl o bob oed. Er nad oes gan Chris hoff goeden, os byddai’n rhaid iddo ddewis mi fyddai’n dewis coed afalau am eu bod yn darparu neithdar yn yr haf a ffrwythau i bobl a bywyd gwyllt yn yr Hy-dref.