TYFU GYDA'N GILYDD

Hyfforddiant Arweinydd Teithiau Cerdded Iechyd

Hyfforddiant Arweinydd Teithiau Cerdded Iechyd

Dysgwch sut i arwain teithiau cerdded yn eich cymuned leol er mwyn cynorthwyo pobl i ddod yn heini, gwella ffitrwydd, cefnogi adferiad neu wella llesiant meddyliol a chymdeithasol.

Mae’r hyfforddiant hwn am ddim ac mae ar gael i wirfoddolwyr, staff, ac unrhyw un arall sy’n dymuno teimlo’n hyderus a diogel i arwain teithiau cerdded hyd at awr o hyd yn wirfoddol.

Sesiynau hyfforddi ar y gweill

Sesiwn 1

Llun 12 a Iau 15 Medi - Sesiynau ar-lein

Gwe 16 Medi - Taith gerdded fel ymarfer ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

Sesiwn  2

Maw 18 Hyd, 9yb–5yp - Sesiwn wyneb yn wyneb ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

Archebwch eich lle

Cwblhewch y ffurflen gais a ddarperir neu cysylltwch ag Alison Moore: [email protected] m 07800779967