TYFU GYDA'N GILYDD

Iechyd yn yr awyr agored a rhagnodi cymdeithasol

Yn 2021, cydweithiodd Coed Lleol â ‘Leader RDP’ mewn 3 gwlad i gynnal prosiect a geisiodd ymestyn cyrhaeddiad ymysg y sector iechyd a gwella’r gallu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd drwy ddulliau digidol, rhithiol. Canlyniad hyn oedd cyfres o ffilmiau byr hyfryd ac ysbrydoledig yn ymwneud â phwysigrwydd lleoedd gwyrdd ar gyfer iechyd a llesiant. Mae ‘Woodlands for Wellbeing’ yn canolbwyntio ar brofiadau’r cyfranogwyr.