TYFU GYDA'N GILYDD

Gwybodaeth amdanom ni

Rydym eisiau gwella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru drwy weithgareddau sy’n ymwneud â choetiroedd a natur. 

Cliciwch i wybod mwy am:

Ein Hanes


Mae Small Woods yn elusen genedlaethol a chwmni cyfyngedig trwy warrant, gyda rhaglenni coetiroedd yn Lloegr, Cymru a’r Alban. Ffurfiwyd Small Woods yn 1988 yn gorff cenedlaethol ar gyfer coetiroedd bach. Cafwyd cryn lwyddiant mewn rheoli prosiectau Coedwigaeth Gymdeithasol, yn ogystal â phrosiectau i hyrwyddo gwaith rheoli coetiroedd bach mewn ffordd gynaliadwy er budd y gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi.

Sefydlwyd Coed Lleol (Small Woods Wales) yn 2002, a magwyd dros bymtheg mlynedd o brofiad yn cynnal gweithgareddau coetir i’r gymuned. Sefydlwyd rhwydwaith cymorth i grwpiau coetir cymunedol sydd bellach yn gorff annibynnol dan yr enw Llais Y Goedwig.

Ers 2010, mae Coed Lleol wedi llwyddo i gynnal gweithgareddau iechyd a lles drwy ein rhaglen Coed Actif Cymru. Erbyn heddiw, mae’r rhaglen hon wedi mynd o nerth i nerth gyda grwpiau ledled Cymru.

Dyma rai prosiectau ar hyn o bryd: 

  • Coed Actif Cymru
  • Trywydd Iach Biosffer Dyfi
  • Iechyd a Mynediad Gwyrdd Gogledd Cymru
  • Cysylltu Pobl a Natur
  • Prosiect Mawndiroedd Coll

Am fwy o wybodaeth, ewch ar ein tudalen Prosiectau

Ein Cyllidwyr


Mae Coed Lleol wrthi’n cynnal nifer o brosiectau gydag amrywiaeth o wahanol gyllidwyr. Ar hyn o bryd, mae prosiect Coed Actif Cymru yn cael cyllid gan y Gronfa Iach ac Egnïol (Cyngor Chwaraeon Wales) a Chyfoeth Naturiol Cymru.  Mae prosiectau eraill yn cael eu cyllido gan Gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru, Rhaglen Datblygu Gwledig a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

 Yn y gorffennol, cawsom gyllid gan:

  • Y Gronfa Gynhwysiant Gweithredol (rheolwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop)
  • Cronfa Loteri Fawr Pawb a’i Le
  • Chwaraeon Cymru
  • Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Ynys Môn
  • AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • LEADER (Cynllun Datblygu Gwledig)
  • Ymddiriedolaeth Elusennol Doyle Carte
  • Cronfa Datblygu Gwirfoddol Gwynedd
  • Bagiau am Oes Tesco
  • Arian i Bawb
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ein Bwrdd Ymgynghorol


Ar ein Bwrdd Ymgynghorol, mae cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus ac anllywodraethol yn y gymuned, a’r maes iechyd a’r amgylchedd, o bob cwr o Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Bwrdd Ymgynghorol, cysylltwch â Rheolwr Coed Lleol, Amie Andrews [[email protected]] efo gwybodaeth am eich cefndir a’ch profiad perthnasol. Gwirfoddol yw’r aelodau ar ein Bwrdd Ymgynghorol, ond telir costau i’r rheiny nad ydynt mewn rôl sy’n cael tâl efo’u sefydliad.

Ein Gweithgor Datblygu Hyfforddiant Lles mewn Natur 

Rydym hefyd yn gweithio gydag ystod o sefydliadau atgyfeirio lleol a chenedlaethol ym mhob un o ardaloedd Coed Actif Cymru.