TYFU GYDA'N GILYDD

Coetiroedd ar gyfer Lles

Mae ein map rhyngweithiol yn ganllaw manwl i’r coetiroedd cyhoeddus a’r rhai preifat rydym wedi gweithio ynddynt ledled Cymru.  Mae’r safleoedd hyn yn agos at galonnau pobl ac wedi bod o fudd mewn amryw o ffyrdd i bawb sydd wedi eu defnyddio. 
 
Rhowch gynnig ar yr amrywiaeth cyffrous o weithgareddau coetir sydd ar gael yn eich ardal chi, canfyddwch lecyn newydd i fwynhau byd natur neu ewch ati i gynllunio eich sesiwn eich hun! 
 
Mae’r map yn un hawdd ei ddefnyddio, sgroliwch trwyddo a chliciwch ar symbol coeden i ddatgelu lleoliad unrhyw safle , y math o weithgareddau y gellir eu cynnal neu sydd wedi eu cynnal yno, a’r adnoddau sydd ar gael. Wrth i chi edrych yn agosach, bydd unrhyw doiledau, arosfannau bysiau neu orsafoedd rheilffordd i’w gweld hefyd.    

 Rydym yn awyddus i ehangu’r map hwn i gynnwys coetiroedd eraill sy’n addas ar gyfer gweithgareddau iechyd a lles neu weithgareddau cymunedol. Os ydych chi’n awyddus i gynnwys eich safle chi ac i ymuno â’n rhwydwaith wrth iddo dyfu, cysylltwch â’n Tîm Coetiroedd [email protected] a byddant yn anelu at gynnal asesiad coetir gyda chi. 

Nid yw’r coetiroedd a nodir ar y map hwn yn darparu unrhyw warant bod y safleoedd yn addas ar gyfer gweithgareddau lles mewn coetiroedd. Mae angen sicrhau caniatâd gan berchennog y coetir cyn trefnu unrhyw weithgaredd a rhaid i ddarparwyr gweithgareddau gynnal eu gwiriadau diwydrwydd dyladwy eu hunain. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Cydlynwyr Rhanbarthol Coedwigaeth Gymdeithasol a Lles:

Gogledd Cymru – [email protected] 
Canolbarth a Gorllewin Cymru - [email protected] 
De Cymru - [email protected]  

Neu gallwch bori trwy wefan y coetir penodol trwy ddilyn y ddolen o’r ffenestr naid gysylltiedig.