Coed Lleol (Small Woods Wales) yw enw’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain (Small Woods Association) yng Nghymru. Rydym yn helpu i wella iechyd a lles pobl ledled Cymru drwy weithgareddau yn ymwneud â choetiroedd a natur.
Darllenwch am ein prosiectau isod neu gallwch ddefnyddio’r map i chwilio am brosiectau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi.
Cliciwch yma i gadw lle i chi’ch hun, neu rywun arall, ar sesiwn.
Mae’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain yn rhoi cymorth i berchnogion coetiroedd ar draws y DU. Am fwy o wybodaeth, ewch ar: www.smallwoods.org.uk
Coed Actif Cymru
Gyda phrosiectau ar draws Cymru, mae Coed Actif Cymru yn cynnig llu o weithgareddau iechyd a lles yn ymwneud â choetiroedd – o grefftau’r goedwig a chrwydro coetiroedd, cadwraeth a choginio ar dân gwersyll a chwilota, hyd at feddylgarwch.
Trywydd Iach | Outdoor Health
Mae Coed Lleol (Small Woods Wales) a ecodyfi wedi ffurfio partneriaeth i gynorthwyo ein cymuned i fod yn weithgar yn yr awyr agored ym Miosffer Dyfi.
Iechyd Gwyrdd a Mynediad Gorllewin Cymru
Mae Iechyd Gwyrdd a Mynediad Gorllewin Cymru yn brosiect yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, sy’n archwilio cyfleoedd arloesol ar gyfer iechyd gwyrdd, yn cefnogi mentrau presennol ac yn edrych am ffyrdd o wella ardaloedd coetir a mynediad ar gyfer pobl o bob gallu.
Eginiad
Mae Eginiad yn brosiect a arweinir gan y gymuned a gefnogir gan Coed Lleol ac EcoDyfi, ar y cyd â Trywydd Iach. Yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng, ei nod yw helpu, ymgysylltu a gwella llesiant.
Prosiect Adfer Mawndiroedd
Mae’r Prosiect Adfer Mawndiroedd yn adfer ardaloedd o fawndir hanesyddol rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, yn creu cynefin ar gyfer rhywogaethau prin sy’n diflannu fel llygod y dŵr a’r ehedydd. Mae’n canolbwyntio ar bron i 6700 hectar o dirlun, yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ddarganfod y cyfoeth o dreftadaeth naturiol a diwylliannol mae'r ardal yn ei chynnig.