Tool sharpening
- The Green Wood Centre
- 21 Sep 2024
Dewch i ddysgu sut y gallwch roi hwb i’ch iechyd a’ch llesiant trwy gysylltu gyda natur!
Caiff pob un o’n cyrsiau rhad ac am ddim eu cynnal trwy gyfrwng y Saesneg ar ein platfform dysgu hawdd ei ddefnyddio. Mae deunyddiau’r cyrsiau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y sesiynau’n para awr a byddant yn cael eu cynnal dros gyfod o chwe wythnos. Mae slotiau amser cinio a min nos ar gael.
Mae’r cyrsiau hyn ar gael i bawb sydd wedi cofrestru gyda Coed Lleol / Small Woods ac sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol:
- Conwy
- Sir Benfro
- Ynys Môn
Dewch i archwilio harddwch natur ac i ddysgu technegau crefft newydd. Bydd Peggy Beer, ein tiwtor arbenigol, yn eich tywys trwy’r rhaglen chwe wythnos hon. Cewch weithio gyda phethau a fforiwyd i greu bomiau hadau, dalwyr breuddwydion, llifynnau naturiol a mwy.
Trigolion Conwy: 18 Medi– 23 Hydref, dydd Mercher, 5 – 6pm
Trigolion Sir Benfro: 7 Tachwedd – 12 Rhagfyr, dydd Iau, 11am – 12pm
Trigolion Ynys Môn: 7 Tachwedd – 12 Rhagfyr, dydd Iau, 1 – 2pm
Dewch i ddysgu am yr holl fanteision iechyd a llesiant sy’n perthyn i fforio. Bydd Jody Marshall, ein tiwtor arbenigol, yn eich tywys trwy hanfodion fforio, yn cynnwys adnabod planhigion, eu cynaeafu a’u paratoi. Dewch i ddysgu gwybodaeth a sgiliau ymarferol ar gyfer gwella eich deiet, gwella eich iechyd meddwl a chysylltu â natur.
Trigolion Conwy: 16 Medi – 21 Hydref, dydd Llun, 5pm – 6pm
Trigolion Sir Benfro: 8 Tachwedd – 13 Rhagfyr, dydd Llun, 11am – 12pm
Trigolion Ynys Môn: 16 Medi – 21 Hydref, dydd Llun, 1pm – 2pm
- Cofrestrwch yma
- Llenwch ein ffurflen ar-lein
- Yna, byddwch yn cael e-bost yn eich gwahodd i ymuno â’r cwrs.
Rhaid trefnu lle ymlaen llaw, oherwydd nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch hellotraining@smallwoods.org.uk