TYFU GYDA'N GILYDD

Conwy

Mae Coed Lleol (Small Woods Wales) yn cynnal grwpiau gweithgareddau iechyd a lles mewn coetir yn Conwy, yn rhan o raglen Coed Actif Cymru. Dewch i weld sut all coetiroedd adfywio eich enaid, tra byddwch chi’n dysgu gofalu am yr amgylchedd.

BETH SY’N DIGWYDD YN COED ACTIF CONWY? 

Bwriad ein sesiynau yw rhoi’r cyfle i’r aelodau ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, rhoi amgylchedd cyfeillgar a chyfle i wneud ffrindiau, treulio amser yn yr awyr agored a gwarchod yr amgylchedd naturiol.

Gall pob sesiwn roi sylw i amryw o weithgareddau coetir, fel:

- Coginio ar dân gwersyll a chwilota
- Crwydro coetir
- Gweithgareddau cadwraeth
- Crefftau coetir
- Campfa werdd
- Sgiliau goroesi
- Ymwybyddiaeth ofalgar
- Bod yn un â’r goedwig
- A llawer mwy!

 

PAM DDYLWN I YMUNO?

Gwelwyd bod treulio amser mewn coetir yn lleihau pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon, yn lleihau faint o hormonau straen a gynhyrchir, yn rhoi hwb i’r system imiwnedd ac yn gwella’r teimlad o les yn gyffredinol.


DEWCH I GYFARFOD Â THÎM 

Heli Gittins yw Swyddog Prosiect Conwy, ac mae ganddi gefndir o weithio mewn partneriaeth â Golygfa Gwydyr yn Llanrwst ar astudiaeth ddichonolrwydd yn cyflwyno sesiynau iechyd a llesiant. Mae Heli wedi datblygu Step into Nature, cwrs 6 wythnos, ac mae wedi cyflwyno hwn gyda chyfranogwyr o MIND. Bellach, mae’n sefydlu sesiwn fisol a fydd yn cael ei chynnal yn Llanrwst i ddechrau, ond a fydd yn cael ei hymestyn i safleoedd newydd i gyflawni rhaglenni.

[email protected]

Ewch i'n tudalen digwyddiadau, ac ar ein tudalen Facebook am y newyddion diweddaraf.