TYFU GYDA'N GILYDD

Gwybodaeth i Wirfoddolwyr

Rydym yn croesawu’r cymorth a gawn gan nifer fechan o wirfoddolwyr trwy’r sefydliad ac rydym yn gwerthfawrogi’r amser a’r sgiliau y gall pobl eu cynnig inni. Dymunwn sicrhau bod eich profiad yn fuddiol a’ch bod yn deall sut rydych yn rhan o’r sefydliad.

YMGEISIO

1) Gwirfoddolwr Llesiant Disgrifiad Rôl

2) Llysgennad Gwirfoddol – rôl weinyddol o bell, gellir ei gwneud yn unrhyw le. Llenwch ffurflen gais yma. Bydd aelod o staff yn eich ardal yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod cychwynnol.

Er mwyn deall yn well beth yw hanfod gwirfoddoli gyda ni, darllenwch ein Llawlyfr i Wirfoddolwyr yma.

CYNEFINO

Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd trwy broses gynefino â dau gam yn perthyn iddi, sef:

· Sesiwn ‘Arferion Gorau’ Gwirfoddoli ar-lein er mwyn eich cyflwyno i’r sefydliad ac i bolisïau a gweithdrefnau’n ymwneud â’ch rôl

· Sesiwn gynefino wyneb yn wyneb gyda’ch cyswllt CLSW lleol. Bydd eich cyswllt yn eich cynorthwyo yn eich rôl ac yn eich helpu i ddeall sut y mae’n gweithio

HYFFORDDIANT A DATBLYGU

Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd ichi ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Efallai y bydd yr opsiynau hyfforddi canlynol ar gael:

 

Diogelu oedolion a phlant Ar gael yn barhaus  

Cymorth Cyntaf yn yr Awyr Agored neu Gymorth Cyntaf mewn Argyfwn

         
I’w gadarnhau
Hylendid Bwyd Ar gael yn barhaus
Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Ar gael yn barhaus
Hyfforddiant Asesu Risgiau Ar gael yn barhaus
Rhannu sgiliau lleol I’w gadarnhau

 

GWOBRAU A DATHLU

Ardystiad – byddwn yn cynnig ardystiad fel tystiolaeth o’r canlyniadau a gyflawnwch. Byddwn yn cadw cofnod o’ch oriau er mwyn ategu hyn. Credydau Amser – Rydym yn gweithio gyda Tempo Time Credits er mwyn sicrhau y bydd modd ichi gael rhywbeth yn ôl am yr amser a roddwch. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r gwobrau a enillwch i’w rhoi i eraill e.e. teulu a chyfeillion.

I gael mynediad at eich cyfrif Tempo, cliciwch yma: y manylion i’w cadarnhau