TYFU GYDA'N GILYDD

Astudiaeth Dichonolrwydd - Ysbyty Cymunedol a Chanolfan Llesiant Bro Ddyfi Machynlleth - Powys

Prosiect astudiaeth dichonolrwydd sy’n gofyn - ‘Sut all yr ysbyty cymunedol a chanolfan llesiant newydd ym Machynlleth hybu gweithgareddau awyr agored er budd iechyd a llesiant staff, cleifion, a’r gymuned leol, ochr yn ochr â gofal clinigol y ganolfan?’ 
 
Arweinir y prosiect, sy’n rhedeg o Fedi 2023 - Mawrth 2024, gan Coed Lleol, mewn partneriaeth ag Ecodyfi, Ymddiriedolaeth ddatblygu leol, a grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o’r bwrdd iechyd, meddygfa, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, a’r Fforwm Cleifion.  

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau cymunedol, arolwg, ac adroddiad gydag argymhellion. Mae’r prosiect astudio hwn yn datblygu ar waith a gwblhawyd yn flaenorol gan Coed Lleol ac Ecodyfi o ran creu rhwydwaith ar gyfer ‘presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd’ yn yr ardal, mewn cydweithrediad â nifer o randdeiliaid lleol, gan greu ‘rhwydwaith iechyd awyr agored’ a llwybrau i bobl gael mynediad at gyfleoedd iechyd a llesiant yn yr awyr agored.

Cymerwch ran ac enillwch - mae arnom angen eich barn!

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU ac wedi’i yrru gan Ffyniant Bro.