TYFU GYDA'N GILYDD

Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd ar Ynys Môn

 

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael arian gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer ein prosiect Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd ar Ynys Môn tan fis Rhagfyr 2024.

Trwy gyfrwng y prosiect hwn, bydd Coed Lleol yn gwella sgiliau, cadernid cymunedol a llesiant y rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd yn gwneud hyn trwy sefydlu a datblygu safleoedd awyr agored hygyrch, trwy gynyddu sgiliau a gweithgareddau dysgu a thrwy wella coetiroedd a gwybodaeth am yr amgylchedd lleol ar Ynys Môn.

Hefyd, bydd ein gweithgareddau a’n rhwydweithiau’n cynorthwyo i symud tuag at ofal iechyd mwy ataliol a fydd yn annog newid mewn ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch corfforol, llesiant gwell trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp cadarnhaol, cysylltiad â natur a rhoi rhywbeth yn ôl trwy wella safleoedd coetir.

 Rydym wedi cynllunio amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn cynnwys:

- Sesiynau Dydd Gwener wythnosol

- Sesiynau galw heibio misol i wirfoddolwyr

- Rhaglenni llesiant coetir a fydd yn para 6 wythnos

- Sesiynau rhagflas i ysgolion a cholegau

- Cynnydd â chefnogaeth

- Hyfforddiant mewn sgiliau coetir

 I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kate Clements, Cydgysylltydd Gogledd Cymru: [email protected]