TYFU GYDA'N GILYDD
Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy AIM Lefel 3

Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy AIM Lefel 3

Cewch ddysgu am hanfodion sylfaenol ac eang cynhyrchu coetiroedd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Cewch brofiad ymarferol a chyfle i drafod datrysiadau i arferion rheolaethol gyda phobl broffesiynol a chyfoedion.

Cyflwynir y cwrs hwn, dros dri diwrnod, gan bobl broffesiynol sy’n brofiadol a brwd. Mae’n ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn coetiroedd neu goedwigaeth, neu sydd eisoes yn gweithio yn y maes. Byddai’n dda cael gwybodaeth flaenorol o natur ac/neu goetiroedd.

Os yw’r gost yn rhy fawr, hoffem glywed gennych chi, cysylltwch â: [email protected]

Mae modd talu mewn rhandaliadau am y cwrs hwn. Os gwelwch yn dda ffoniwch ein swyddfa i drafod: 01952 432769.

Dyddiadau: I'w drefnu

Lleoliad: Canolfan Sgiliau Coetir, LL16 4DT

Pris: £450

Cyfleusterau: Darperir lluniaeth, offer a chyfarpar diogelwch. Mae modd gwersylla am £10 y noson ble cewch gegin, toiled, cawod ac ystafell gyfarfod gynnes.

Bydd y cwrs amrywiol hwn dros dri diwrnod yn edrych ar hanfodion sut i reoli coetiroedd mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Cyfle dysgu rhyngweithiol gyda gwaith trafod a gweithgareddau ymarferol i’ch cyflwyno i amrywiaeth o goetiroedd, sgiliau a dulliau rheoli.

 

Cynnwys y cwrs

Egwyddorion cynaliadwyedd a gwytnwch coetiroedd.

Mathau/categorïau o goetiroedd yn y DU.

Strwythur ffisegol coetiroedd.

Goblygiadau cyfreithiol rheoli coetiroedd (a rhai ffynonellau grantiau) sy’n briodol i Gymru.

Effaith plâu ac afiechydon

Sut i ddatblygu amcanion clir ar gyfer rheoli coetiroedd.

Ffyrdd o reoli coetiroedd a’r prif systemau coedamaeth.

Dulliau dewis, cynaeafu ac echdynnu coed (drwy addysgu/asesu ymarferol).

Trawsnewid coed a chynhyrchion posibl o goetiroedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy (drwy addysgu/asesu ymarferol).

Achrediad:  Lefel 3 efo AIM, yn ddibynnol ar gyflwyno llyfr gwaith cwrs ac asesiad maes cyflawn.

I archebu, ffoniwch 01952 432769 neu e-bostiwch [email protected]

 

EIN HYFFORDDWYR

 

Sorry, no record found.
Cyrsiau
SEF7791

Sustainable Woodland Management AIM Level 3

  • The Green Wood Centre
  • 05 Aug 2025 - 07 Aug 2025
Designed for new or aspiring owners and managers, who want to balance the environmental, economic and social benefits of their woodland. Two days of classroom sessions are followed by a practical skills assessment and woodland products day. more...