Tool sharpening
- The Green Wood Centre
- 21 Sep 2024
Mae ein rhaglen Coed Actif Cymru yn cael ei chynnal mewn siroedd ledled Cymru yn helpu pobl i roi hwb i'w iechyd a'u llesiant drwy gysylltu â choetiroedd a'r byd natur.
Mae myfyrwraig PhD Prifysgol Bangor, Heli Gittins, wedi gweithio gyda grwpiau Coed Actif Cymru i archwilio'r cwestiwn A all rhaglen gweithgareddau coetir fod o fudd i lesiant cyfranogwyr a newid y ffordd maent yn defnyddio coetiroedd? Mae'r astudiaeth hon yn bodloni bwlch allweddol yn yr ymchwil i effeithiau hirdymor rhaglenni o'r fath.
Fel rhan o'r ymchwil hwn, gweithiodd ar adroddiad gyda Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor yn archwilio Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad Rhaglen Coed Actif Cymru. Dengys y canlyniadau am bob £1 a fuddsoddir yn rhaglenni Coed Actif Cymru, cynhyrchir £2.07 i £4.85 o werth cymdeithasol i gyfranogwyr
Darllenwch gyfweliad gyda Heli ynghylch ei hymchwil ar ein tudalen Newyddion.
Am ragor o wybodaeth ynghylch unrhyw un o'n gwaith ymchwil, cysylltwch â'n Swyddog Ymchwil a Gwerthuso, Natasha Simons [email protected]