TYFU GYDA'N GILYDD

Cwrdd â'n hymchwilwyr

Portrait of Natasha Simons

Natasha Simons

Swyddog Ymchwil a Gwerthuso Coed Lleol
[email protected]
01654 700061 est.4

Ar ôl cwblhau ei PhD, arbenigodd Natasha mewn dylunio a chyflawni strategaethau gwerthuso ar gyfer elusennau, sefydliadau allgymorth addysgol ac amgueddfeydd. Mae hi hefyd yn brofiadol mewn ysgrifennu adroddiadau ac ariannu cynigion. Mae hi wedi gweithio fel Prif Werthuswr i sawl prosiect mawr gan y British Council, yr Academi Frenhinol Peirianneg a'r Sefydliad Ffiseg. 

Ed Lord

Ymchwilydd PhD, Darlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl, Prifysgol Abertawe
Teitl PhD: Archwiliad ethnograffig o brofiadau o eco-therapi fel ymyrraeth ar gyfer iechyd meddwl yn ne a gorllewin Cymru
Wedi'i ariannu gan Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (cymrodoriaeth PhD RCBC)
Cysylltwch â: [email protected]

Mae Ed yn ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe. Ac yntau wedi graddio o Brifysgol Nottingham, mae Ed wedi gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol acíwt mewn sawl Ymddiriedolaeth y GIG yn Lloegr a Byrddau Iechyd yng Nghymru dros ddeg mlynedd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymdrin â'r croestoriad rhwng iechyd meddwl, daearyddiaeth, amgylcheddaeth, a damcaniaeth feirniadol gymdeithasol. Cyflawnodd MSc yn 2016 am ei draethawd hir, A wild schizoanalysis of mental distress in the spaces of modernity – a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel cyfrol, sef Modern Madness gan Winter Oak Press ac mae wedi cyhoeddi papur, Identifying and resisting the technological drift: Green space, blue space and ecotherapy.

Yn 2016, dyfarnwyd Ed â chyllid gan RCBC Cymru i wneud PhD. Gan ymgymryd â dull gweithredu ethnograffig ansoddol, mae Ed wedi ymchwilio i'r maes eco-therapi ac ymyriadau ar sail natur a'u heffaith ar iechyd meddwl a llesiant. Drwy'r ymchwil hwn y cafodd Ed wybod am Coed Lleol. Daeth Ed yn oruchwyliwr cyfranogwyr yng ngrwpiau Coed Lleol de Cymru ac mae wedi archwilio eu defnydd a'u heffaith drwy glyweliadau ac arsylwadau manwl a wnaed yn ystod y flwyddyn. Ymunodd Ed a'r tîm a gweithio'n rhan amser fel Swyddog Prosiect Coed Lleol o 2019-2020. Bydd Ed yn cyhoeddi ei PhD yn 2021.

Heli Gittins 

Ymchwilydd PhD, Prifysgol Bangor, Adran Seicoleg
Ariennir gan: KESS, Coed Lleol a Coed Cadw  
Cysylltwch â: [email protected]

Mae Heli Gittins wedi'i lleoli yng Ngholeg Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor.  Mae hi'n ymchwilydd ôl-raddedig ac ar hyn o bryd mae ei gwaith yn canolbwyntio ar natur a llesiant. Mae Heli hefyd yn darlithio i lefel gradd Meistr mewn Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes a Chadwraeth. Yn ogystal â hyn, mae hi'n Athro Ymwybyddiaeth Ofalgar cymwys ac yn cynnal cyrsiau a gweithgareddau natur yn seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.

Mae ymchwil PhD Heli wedi defnyddio sawl dull ymchwil i gasglu tystiolaeth o newidiadau cymdeithasol, corfforol a llesiant meddwl a all fod wedi digwydd o ganlyniad i gymryd rhan yn rhaglen Coed Actif Cymru gan Coed Lleol. Mae hi hefyd yn archwilio sut mae Coed Actif Cymru yn effeithio ar sut mae pobl yn canfod coetiroedd ac yn eu defnyddio yn y tymor hir. A hithau wedi casglu data cyn arolwg, ar ei ôl ac ymhen amser ar ei ôl a chynnal sawl grŵp ffocws, mae Heli wedi datblygu cronfa ddata gadarn sy'n dangos effaith Coed Lleol. Datgelodd ddadansoddiad data cychwynnol Heli gymhellion y cyfranogwyr dros ymuno â Choed Actif Cymru ynghyd â rhwystrau posibl. Datgelodd ei dadansoddiad o ddata y grŵp ffocws themâu newydd 'profiad synhwyraidd' sy'n cyflwyno buddion sylfaenol cael eich amlygu i goetir ar y meddwl, yn ogystal â thema 'adferol' sy'n dangos bod teimladau cyfranogwyr tuag atynt eu hunain yn cael eu trawsnewid gan y profiad o goetir.

Mae ymchwil Heli yn amhrisiadwy o ran arwain dulliau gwerthuso'r dyfodol yn Coed Lleol, yn ogystal â darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cyfrifiad Budd Cymdeithasol o Fuddsoddi gyda'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor. Mae Heli hefyd wedi cyhoeddi gwaith yn Broadleaf, cylchgrawn The Woodland Trust ar gyfer aelodau.

Ben Howard

Ymchwilydd PhD, adran Daearyddiaeth, y Ddaear a gwyddorau Amgylcheddol yn The Birmingham Institute of Forest Research (BIFOR).
Teitl PhD: Ffagodau Coedlannau i Atgyfnerthu Cylch Biogeogemegol Afonydd

Mae Ben wedi'i leoli yn adran Daearyddiaeth, y Ddaear a gwyddorau Amgylcheddol yn The Birmingham Institute of Forest Research (BIFOR). Mae PhD Ben yn archwilio atafaeliad carbon ac effeithiau dadnitreiddio yn sgil defnyddio deunydd coedlannau mewn peirianneg werdd arfaethedig wrth adfer afonydd. Defnyddir tocion coed cyll i wneud bwndeli, o'r enw ffagod, sy'n cael eu gosod mewn afonydd. Mae Ben yn defnyddio 3 dyluniad arbrofi i archwilio a yw'r ffagodau yn effeithiol o ran torri carbon i lawr i'w ddefnyddio mewn resbiradaeth microbaidd a chael gwared ar nitrogen. Pa un ai a yw presenoldeb a lleoliad y ffagodau yn creu cynnydd yn y cyfnewid hydoddion ac archwiliad i ba un ai a yw gosod ffagodau yn cynyddu metabolaeth ffrwd mewn ffrydiau tir isel. Nod Ben yw cyflawni dealltwriaeth well o effeithiau defnyddio deunydd coedlannau yng nghyrff dŵr i arafu'r llif ac i wella ansawdd y dŵr. Mae gan yr ymchwil y potensial i gynnig techneg fio-beirianneg rhad, effaith isel sy'n cefnogi ecosystemau a buddion economaidd-gymdeithasol; hyrwyddo'r defnydd o goedlannau er budd y coetir a'r afon. 

 

Ramiga Kirupaikkumaran

Ymchwilydd Meistr, Adran Seicoleg, Prifysgol Bangor
Teitl: Datblygu ymyrraeth ar sail tystiolaeth i fabwysiadu diwylliant bwyta'n iach yn ardaloedd ag amddifadedd cymdeithasol yng Nghymru gan ddefnyddio mannau gwyrdd
Ariennir gan: KESS y Gorllewin a Coed Lleol

Mae Ramiga Kirupaikkumaran yn ymchwilydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Dyfarnwyd Ramiga â gwobr KESS (Ysgoloriaeth Sgiliau Gwybodaeth yr Economi) i gwblhau ei gradd Meistr mewn Seicoleg Bwyd gan ddefnyddio grwpiau teulu 'Coed Actif Cymru' Coed Lleol fel ei hastudiaeth achos. Bydd Ramiga yn archwilio effaith seicolegol dewisiadau bwyd a sut all bwyta yn yr awyr agored annog dewisiadau bwyd iachach ymhlith plant cyn oed ysgol. Bydd Ramiga yn cael ei goruchwylio gan Dr Mihela Erjavec, uwch ddarlithydd mewn Seicoleg gyda chyhoeddiadau diweddar gan gynnwys y Nudges Project: Promoting healthy food choices in the school dining room a'r Food Dudes Project: increasing fruit and vegetable intake in pre-school children.

Bydd Ramiga yn gweithio gyda ni i gynllunio rhaglen i annog bwyta'n iach ymhlith grwpiau teulu gan ddefnyddio amgylchedd awyr agored creadigol lle anogir teuluoedd â phlant ifanc i flasu amrywiaeth o fwydydd iach dro ar ôl tro, er mwyn datblygu hoffter ohonynt. Ar yr un pryd, gellir trafod anfanteision dibynnu'n ormodol ar fwydydd sydd wedi'u gor-brosesu, ac awgrymiadau ar gyfer osgoi hyn. Bydd yr ymchwil yn defnyddio ein prosiect Coed Actif Cymru yn arloesol, i ddarparu amgylchedd cefnogol er mwyn i'r teuluoedd ymgysylltu â bwyta'n iach mewn modd hwyliog. Prif nod y prosiect yw sefydlu 'diwylliant' lle mae bwyta'n iach yn dod yn rhan bleserus o drefn arferol y teulu. Bydd archwilio effaith bod yn yr awyr agored, ym myd natur a bod yn rhan o'r broses o gasglu a pharatoi bwyd hefyd yn cael ei harchwilio.