
Introduction to Pole Lathe Turning
- The Green Wood Centre
- 31 May 2025
Rydym yn croesawu’r cymorth a gawn gan nifer fechan o wirfoddolwyr trwy’r sefydliad ac rydym yn gwerthfawrogi’r amser a’r sgiliau y gall pobl eu cynnig inni. Dymunwn sicrhau bod eich profiad yn fuddiol a’ch bod yn deall sut rydych yn rhan o’r sefydliad.
Gwirfoddolwr Llesiant Disgrifiad Rôl – Llenwch ffurflen gais yma. Bydd aelod o staff yn eich ardal yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod cychwynnol.
Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd trwy broses gynefino â dau gam yn perthyn iddi, sef:
· Sesiwn ‘Arferion Gorau’ Gwirfoddoli ar-lein er mwyn eich cyflwyno i’r sefydliad ac i bolisïau a gweithdrefnau’n ymwneud â’ch rôl
· Sesiwn gynefino wyneb yn wyneb gyda’ch cyswllt CLSW lleol. Bydd eich cyswllt yn eich cynorthwyo yn eich rôl ac yn eich helpu i ddeall sut y mae’n gweithio
Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd ichi ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Efallai y bydd yr opsiynau hyfforddi canlynol ar gael:
Diogelu oedolion a phlant | Ar gael yn barhaus |
Cymorth Cyntaf yn yr Awyr Agored neu Gymorth Cyntaf mewn Argyfwn |
I’w gadarnhau |
Hylendid Bwyd | Ar gael yn barhaus |
Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Ar gael yn barhaus |
Hyfforddiant Asesu Risgiau | Ar gael yn barhaus |
Rhannu sgiliau lleol | I’w gadarnhau |
Ardystiad – byddwn yn cynnig ardystiad fel tystiolaeth o’r canlyniadau a gyflawnwch. Byddwn yn cadw cofnod o’ch oriau er mwyn ategu hyn.