TYFU GYDA'N GILYDD

Coedwigaeth Gymdeithasol i Gyfranogwyr

Llesiant ym Myd Natur


 
Mae treulio amser mewn coetir wedi'i brofi i leihau cyfradd y galon a phwysau gwaed, lleihau'r hormon straen a gynhyrchir, rhoi hwb i'r system imiwnedd a gwella teimladau o lesiant yn gyffredinol. Mae cemegyn sy'n cael ei ryddhau gan goed a phlanhigion, o'r enw ffytoncidau, yn rhoi hwb naturiol i'r system imiwnedd. Mae astudiaethau cadarn a helaeth yn awgrymu bod cyswllt pendant rhwng treulio amser yn yr awyr agored a llesiant corfforol a meddyliol gwell.

Gan gydnabod y buddion sydd i'w cael wrth dreulio amser mewn coetir, ymgorfforodd llywodraeth Japan 'Ymlacio yn y Goedwig' yn ei rhaglen iechyd y cyhoedd 30 mlynedd yn ôl. Heddiw, mae llywodraeth Prydain a'r GIG yn dechrau cydnabod nodweddion holistig buddiol y byd natur ac yn hyrwyddo ei ddefnydd mewn cymunedau.

Pobl mewn Byd Natur


Mae ein prosiectau Coed Lleol ledled Cymru, a'n prosiect Build a Bench yn Swydd Amwythig wedi'u dylunio i weithio mewn harmoni â'r buddion naturiol i'n cyrff sy'n cael eu cynnig gan fyd natur.
Yn ogystal, credwn fod ein rhyngweithiadau â bodau dynol eraill yn hanfodol i'n llesiant. Dyma pam ein bod yn cynnal sesiynau i grwpiau sy'n canolbwyntio ar weithgareddau natur mewn coetiroedd. Rydym wedi dylunio pob sesiwn i ddatblygu hunanhyder, hunan-barch a rhyngweithiad cymdeithasol.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar sgiliau newydd a dysgu rhai newydd, megis:

  • Cynnau tân
  • Sgiliau coetiroedd
  • Adnabod natur
  • Chwilota
  • Coginio ar dân gwersyll
  • Crefftau natur
  • A llawer mwy!
  • Rydym yn cynnig sesiynau sydd ar gael i deuluoedd ac oedolion. Beth am gysylltu â ni a rhoi cynnig ar un ohonynt?

Dewch o hyd i sesiwn mewn coetir yn lleol i chi yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ynghylch y prosiect Build a Bench yn Swydd Amwythig