TYFU GYDA'N GILYDD

Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy Sgiliau a Hyfforddiant yng Nghastell-nedd Port Talbot

 

Mae’r prosiect ‘Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy Sgiliau a Hyfforddiant yng Nghastell-nedd Port Talbot’ wedi derbyn £275,706 o gyllid ar gyfer cymorth llesiant ac isadeiledd coetiroedd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bydd y prosiect yn cynnig ystod gyffrous o raglenni 6 wythnos, sesiynau untro, digwyddiadau gwirfoddoli a gwelliannau i goetiroedd er mwyn cefnogi iechyd a llesiant ym myd natur, gan roi darpariaeth i ddysgu nifer o sgiliau ‘gwyrdd’ ac ymgysylltu cymunedau mewn meysydd gwirfoddoli seiliedig ar natur ac isadeiledd coetiroedd. Dysgwch beth sy’n digwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot ar ein tudalen Facebook.