TYFU GYDA'N GILYDD

Cyflawniadau a llwyddiannau 2020

Ym mis Mawrth 2020, cawsom ein herio ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf i ailfeddwl sut y gallem ddarparu ein rhaglenni llesiant coetir. Gweithiodd staff Coed Lleol gyda'i gilydd i ddeall anghenion ein cyfranogwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn a llunio strategaeth i helpu a chefnogi cymaint o bobl ag y gallem. Arweiniodd hyn at ein rhaglen #DosNatur, a oedd yn cynnwys Sesiynau Natur a Llesiant dyddiol ar Zoom, a oedd ar gael i bawb yng Nghymru. Mae ein sesiynau Chwilota a Maeth, Gwylio Natur, ac Ymwybyddiaeth Ofalgar ar Zoom wedi parhau yn 2021.

Gwnaethom hefyd ddechrau sesiynau Zoom lleol ym mhob un o’n hardaloedd prosiectau ledled Cymru, yn galluogi ein cyfranogwyr i barhau i ymgysylltu â ni a’i gilydd. Ar gyfer cyfranogwyr nad oeddynt ar-lein, sefydlwyd gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn gan ganolbwyntio ar sgyrsiau ynghylch natur a llesiant. Er mwyn cefnogi pobl nad oeddynt yn gallu cael mynediad at ein sesiynau Zoom, gwnaethom 21 o fideos Youtube yn trafod llesiant a natur.

Wrth i'r cyfyngiadau lacio tua diwedd 2020, bu'n bosibl i ni ailddechrau rhai o'n grwpiau llesiant coetir wyneb yn wyneb, grwpiau cerdded a sesiynau coetir galw heibio. Bu'r rhain yn fwy poblogaidd nag erioed. Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r goedwig yn ddiogel ar ôl y cyfnod clo hwn.

Dyma grynodeb o'r hyn a wnaethom yn ystod y pandemig yn 2020. Mae'r adroddiad llawn ar gael i chi ei ddarllen yma.

Cyrsiau
Picture7 Hazel Hurdles

Hazel Hurdle Making

  • The Green Wood Centre
  • 27 Apr 2024
Find out how to make a traditional woven hazel hurdle, working alongside a professional hurdle maker.  more...