TYFU GYDA'N GILYDD

Effeithiau tymor hirach Rhaglen Coed Actif Cymru



Mae ein rhaglen Coed Actif Cymru yn cael ei chynnal mewn siroedd ledled Cymru yn helpu pobl i roi hwb i'w iechyd a'u llesiant drwy gysylltu â choetiroedd a'r byd natur.

Mae myfyrwraig PhD Prifysgol Bangor, Heli Gittins, wedi gweithio gyda grwpiau Coed Actif Cymru i archwilio'r cwestiwn A all rhaglen gweithgareddau coetir fod o fudd i lesiant cyfranogwyr a newid y ffordd maent yn defnyddio coetiroedd?  Mae'r astudiaeth hon yn bodloni bwlch allweddol yn yr ymchwil i effeithiau hirdymor rhaglenni o'r fath.

Fel rhan o'r ymchwil hwn, gweithiodd ar adroddiad gyda Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor yn archwilio Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad Rhaglen Coed Actif Cymru. Dengys y canlyniadau am bob £1 a fuddsoddir yn rhaglenni Coed Actif Cymru, cynhyrchir £2.07 i £4.85 o werth cymdeithasol i gyfranogwyr

Darllenwch gyfweliad gyda Heli ynghylch ei hymchwil ar ein tudalen Newyddion

Am ragor o wybodaeth ynghylch unrhyw un o'n gwaith ymchwil, cysylltwch â'n Swyddog Ymchwil a Gwerthuso, Natasha Simons [email protected]

Cyrsiau
46449319 e9d3 48ea 8a9a 87775783c4ee

Make a gate hurdle with sweet chestnut

  • Park Wood, Poynings, West Sussex
  • 11 Sep 2025
Traditionally used to handle and pen livestock, today gate hurdles are an attractive addition to your garden or green space. more...