TYFU GYDA'N GILYDD

Swyddog Ymgysylltu Iechyd Awyr Agored

Cyflog: £27,818 pro rata

Contract: Cyfnod penodol tan fis Mawrth 2028, 3.5 diwrnod yr wythnos

Lleoliad: Machynlleth, Powys (Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi a’r Hwb Coedwigaeth, Swyddfa Coed Lleol – Smallwoods)

A ydych yn gweithio yn y sector iechyd/gofal cymdeithasol? A oes gennych ddiddordeb mewn byd natur a’r awyr agored, a’r manteision a ddaw i ran iechyd a llesiant? A ydych yn dymuno cael rôl greadigol, sy’n canolbwyntio ar bobl ac sydd ar flaen y gad o ran presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru? Rydym yn chwilio am rywun i fod yn gyswllt cyntaf ar gyfer hwyluso pobl i fynd i’r awyr agored, gan weithio’n uniongyrchol gyda darparwyr gofal iechyd eraill er mwyn rhoi dull ataliol ar waith ar gyfer ymdrin ag iechyd a llesiant.

Rôl y Swyddog Ymgysylltu Iechyd Awyr Agored fydd cyflawni’r prosiect ‘Awyr Iach’ fel rhan o dîm. Dyma brosiect tair blynedd sy’n gwasanaethu cymuned dalgylch Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi a Gwarchodfa Biosffer Dyfi ehangach UNESCO. Ariennir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i reoli gan Coed Lleol – Smallwoods (CL-SW), mewn cydweithrediad ag amrywiaeth eang o randdeiliaid cymunedol lleol.

Awyr Iach - Datganiad i'r wasg

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 5pm Dydd Mawrth 20 Mai

Cyfweliad Swydd: Dydd Iau 22 / Dydd Gwener 23 Mai

Anfonwch geisiadau at: [email protected]

Swyddog Ymgysylltu Iechyd Awyr Agored - Biosffer Dyfi

Application Form