TYFU GYDA'N GILYDD
Ein prosiectau

Coed Lleol (Small Woods Wales) yw enw’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain (Small Woods Association) yng Nghymru. Rydym yn helpu i wella iechyd a lles pobl ledled Cymru drwy weithgareddau yn ymwneud â choetiroedd a natur.

Darllenwch am ein prosiectau isod neu gallwch ddefnyddio’r map i chwilio am brosiectau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi.

Cliciwch yma i gadw lle i chi’ch hun, neu rywun arall, ar sesiwn.

Mae’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain yn rhoi cymorth i berchnogion coetiroedd ar draws y DU. Am fwy o wybodaeth, ewch ar: www.smallwoods.org.uk

    Location Filter Reset

    Astudiaeth Dichonolrwydd - Ysbyty Cymunedol a Chanolfan Llesiant Bro Ddyfi Machynlleth

    : Powys

    Prosiect astudiaeth dichonolrwydd sy’n gofyn - ‘Sut all yr ysbyty cymunedol a chanolfan llesiant newydd ym Machynlleth hybu gweithgareddau awyr agored er budd iechyd a llesiant staff, cleifion, a’r gymuned leol, ochr yn ochr â gofal clinigol y ganolfan?’

    Read More

    Prosiect Adfer Mawndiroedd

    : Castell-nedd Port Talbot

    Mae’r Prosiect Adfer Mawndiroedd yn adfer ardaloedd o fawndir hanesyddol rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, yn creu cynefin ar gyfer rhywogaethau prin sy’n diflannu fel llygod y dŵr a’r ehedydd. Mae’n canolbwyntio ar bron i 6700 hectar o dirlun, yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ddarganfod y cyfoeth o dreftadaeth naturiol a diwylliannol mae'r ardal yn ei chynnig.

    Read More

    Presgripsiynu Cymdeithasol yn y Coetir: Prosiect Llesiant Coetir i Blant a Phobl Ifanc – Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

    Cefnogi plant a phobl ifanc ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd naill ai yn cael trafferth gydag addysg prif lif, neu nad ydynt yn rhan o addysg prif lif, er mwyn iddynt gael profiad o ddysgu a datblygiad personol yn yr awyr agored.

    Read More

    Cronfa Trydydd Sector – Castell-nedd Port Talbot 

     Wedi’i ariannu gan CVS, dyma brosiect bach er mwyn cefnogi oedolion ledled Castell-nedd Port Talbot i ymgysylltu â gweithgareddau coetir er mwyn hybu gwelliannau i’w hiechyd a’u llesiant.

    Read More

    Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd ar Ynys Môn

    Bydd yn gwneud hyn trwy sefydlu a datblygu safleoedd awyr agored hygyrch, trwy gynyddu sgiliau a gweithgareddau dysgu a thrwy wella coetiroedd a gwybodaeth am yr amgylchedd lleol ar Ynys Môn.

     

    Read More

    Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd drwy Sgiliau a Hyfforddiant yng Nghastell-nedd Port Talbot

    Bydd y prosiect yn cynnig ystod gyffrous o raglenni 6 wythnos, sesiynau untro, digwyddiadau gwirfoddoli a gwelliannau i goetiroedd er mwyn cefnogi iechyd a llesiant ym myd natur, gan roi darpariaeth i ddysgu nifer o sgiliau ‘gwyrdd’ ac ymgysylltu cymunedau mewn meysydd gwirfoddoli seiliedig ar natur ac isadeiledd coetiroedd.

    Read More

    ‘Hwb Iechyd Gwyrdd’ Cynefin - Sir Gaerfryddin

    Byddwn yn cyflwyno ystod eang o raglenni 6 wythnos a gweithgareddau untro i bobl leol yn Sir Gaerfyrddin gael mynediad atynt a dysgu sut all rhyfeddodau byd natur gefnogi iechyd a llesiant

    Read More

    Cyrsiau
    1000017084

    Introduction to Woodland Management AIM L3

    • The Green Wood Centre
    • 17 Jun 2025 - 18 Jun 2025
    Build the background knowledge needed to manage your woodland sustainably, and work towards creating resilient, productive woods. Tailored to your individual needs, you are encouraged to share details of woodlands you are familiar with to aid your learning. more...